Rhagflas o gemau dydd Sadwrn yn y Cymru Premier JD

Ar gyfartaledd, mae 31 pwynt wedi bod yn ddigon i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf ers ffurfio fformat presennol y Cymru Premier JD yn 2010, ac mae’r Seintiau Newydd eisoes wedi croesi’r trothwy hwnnw.
Bydd nifer o dimau eraill yn awyddus i'w ymuno wrth i ddiwedd hanner cyntaf y tymor agosáu.
Bae Colwyn (11eg) v Y Barri (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae hon yn aaddo i fod yn gêm allweddol yn y frwydr i osgoi’r cwymp rhwng y ddau dîm esgynnodd i’r uwch gynghrair dros yr haf.
Dim ond un pwynt sy’n gwahanu Bae Colwyn yn safleoedd y cwymp, a’r Barri yn niogelwch y 10fed safle, ond mae gan y Gwylanod o’r gogledd ddwy gêm wrth gefn wedi’r gohiriadau diweddar.
Dyw Bae Colwyn ond wedi ennill un gêm gartref yn y gynghrair ers eu dyrchafiad (vs Aberystwyth), a dyw’r Barri ond wedi ennill un pwynt allan o 18 posib yn eu gemau oddi cartref, gyda’r pwynt hwnnw’n dod wedi gêm gyfartal yn erbyn Y Seintiau Newydd.
1-1 oedd hi yn y gêm gyfatebol ar Barc Jenner ym mis Awst gyda Tom Creamer yn sgorio gôl gyntaf Bae Colwyn yn yr uwch gynghrair gyda foli ryfeddol o’r cylch canol.
Record cynghrair diweddar:
Bae Colwyn: ͏❌➖❌❌✅
Y Barri: ❌✅❌❌❌✅
Pontypridd (9fed) v Met Caerdydd (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Roedd Pontypridd a Met Caerdydd i fod i gyfarfod yn rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG nos Fawrth ond cafodd y gêm honno ei gohirio gan swyddogion y gynghrair.
Colli bu hanes y ddau glwb dros y penwythnos, Pontypridd yn ildio tair gartref yn erbyn Cei Connah, a Met Caerdydd yn cael crasfa ar yr Oval (C'fon 5-1 Met).
Pontypridd sydd wedi sgorio’r nifer lleiaf o goliau hyd yma (4 gôl mewn 13) gyda’r tîm yn sgorio cyfartaledd siomedig o 0.3 gôl y gêm yn y gynghrair.
Mae Met Caerdydd wedi ennill eu pum gêm flaenorol yn erbyn Pontypridd, heb ildio mewn pedair, a heb golli yn erbyn y clwb o’r Rhondda ers 2007.
Record cynghrair diweddar:
Pontypridd: ❌❌✅❌❌
Met Caerdydd: ❌✅✅➖➖
Y Drenewydd (4ydd) v Hwlffordd (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Daeth rhediad rhagorol Y Drenewydd i ben yn eu gêm ddiwethaf wrth i’r Robiniaid golli am y tro cyntaf ers mis Awst oddi cartref ym Met Caerdydd.
Roedd Y Drenewydd wedi ennill wyth gêm yn olynol ym mhob cystadleuaeth cyn colli 2-1 ar Gampws Cyncoed, a bydd Chris Hughes yn awyddus i gael ei dîm yn ôl ar y trywydd cywir ddydd Sadwrn.
Dyw’r Drenewydd heb golli gartref ers eu gêm gyntaf y tymor yma pan gollon nhw ar giciau o’r smotyn yn erbyn Cegidfa yng Nghwpan Nathaniel MG.
Roedd Tony Pennock yn feirniadol iawn o’i garfan yn dilyn eu colled o 2-0 yn erbyn Y Bala’r penwythnos diwethaf a bydd angen i Hwlffordd ddangos gwell cysondeb os am geisio cyrraedd y Chwech Uchaf.
Enillodd Y Drenewydd o 4-0 oddi cartref yn Hwlffordd fis diwethaf, ond yr Adar Gleision oedd yn fuddugol ar eu hymweliad diwethaf â Pharc Latham gyda thîm Tony Pennock yn curo’r Robiniaid ar giciau o’r smotyn yn rownd derfynol y gemau ail gyfle ym mis Mai gan selio eu lle’n Ewrop.
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ❌✅✅✅✅
Hwlffordd: ❌✅❌✅➖
Y Seintiau Newydd (1af) v Y Bala (5ed) | Dydd Sadwrn – 17:15 (Yn fyw ar-lein)
Ar ôl curo Gresffordd o 9-0 yng nghanol wythnos i selio eu lle yn rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG, mae’r Seintiau Newydd bellach ar rediad o 18 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth (ennill 16, cyfartal 2).
Yn ystod y cyfnod hwnnw, Y Bala a’r Barri ydi’r unig ddau dîm i gymryd pwyntiau oddi ar y pencampwyr gyda’r gêm gyfatebol rhwng y clybiau yma’n gorffen yn ddi-sgôr ar Faes Tegid pan welodd Adrian Cieslewicz, Oliver Shannon, Ryan Valentine a Craig Harrison i gyd gardiau coch yn dilyn ffrwgwd ar ochr y cae.
Wedi pedair gêm heb golli mae’r Bala wedi dringo ‘nôl i’r 5ed safle ac yn gobeithio hawlio eu lle yn y Chwech Uchaf am y 10fed tymor yn olynol.
Ond dyw’r Seintiau Newydd heb golli dim un o’u 16 gêm flaenorol yn erbyn Y Bala (ennill 11, cyfartal 5), a dyw tîm Colin Caton erioed wedi ennill oddi cartref yn Neuadd y Parc.
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Y Bala: ✅➖✅❌❌
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 10:05.
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru