Newyddion S4C

Gwerthu pabïau coffa di-blastig y mae modd eu hailgylchu eleni

26/10/2023
S4C

Bydd elusen y Lleng Brydeinig Frenhinol yn gwerthu pabïau coffa di-blastig y mae modd eu hailgylchu am y tro cyntaf, eleni.

Y nod fydd lleihau'r gwastraff o blastigion untro medden nhw.

Bydd y cyhoedd ym Mhrydain yn gallu prynu'r fersiwn di-blastig gan filoedd o wirfoddolwyr ledled y DU neu o archfarchnadoedd mawr o ddydd Iau.

Byddant hefyd yn gallu prynu pabi presennol gyda phlastig, y gellir ei ailgylchu yn archfarchnadoedd Sainsbury’s, wrth i’r elusen geisio clirio’r stoc sy’n weddill.

Mae’r ymgyrch flynyddol yn galw ar y cyhoedd i wisgo pabi i ddangos undod gyda chymuned y lluoedd arfog yn y cyfnod cyn Sul y Cofio, sydd ar Dachwedd 12 eleni.

Mae gwerthu'r pabïau hefyd yn casglu arian i gefnogi cyn-filwyr.

Dywedodd Andy Taylor-Whyte, cyfarwyddwr yr ymgyrch: “Rydym mor falch bod gennym ni ein pabi newydd di-blastig eleni hefyd, fel bod y cyhoedd yn gallu gwisgo’r symbol teimladwy hwn o gofio gyda llai o effaith ar yr amgylchedd.

“Ers yr Apêl Pabi cyntaf ym 1921 hyd heddiw, mae rhoddion cyhoeddus wedi darparu achubiaeth i’r lluoedd arfog a’u teuluoedd, a’r llynedd, fe wnaethom helpu mwy na 27,000 o bobl yng nghymuned y lluoedd arfog.

“Fel cyn-filwr fy hun, rwy’n ddiolchgar i’r cyhoedd am roi’r hyn a allant i gefnogi Apêl Pabi’r Lleng Brydeinig Frenhinol eleni.”

Cymorth

Dywedodd y Lleng Brydeinig Frenhinol ei bod wedi bod yn datblygu'r pabi di-blastig am y tair blynedd diwethaf fel rhan o'i ymdrechion i ddod yn fwy cynaliadwy a lleihau ei defnydd o blastig untro.

Mae'r blodau newydd wedi'u gwneud o bapur, wedi'i gynhyrchu o gyfuniad o ffibrau adnewyddadwy.

Gellir eu clymu â phin yn y coesyn, eu gwisgo mewn twll botwm neu mae fersiwn sy’n glynu ar gael.

Dywedodd y Lleng Brydeinig Brenhinol, sy'n cynhyrchu 170,000 o babïau'r dydd i ateb y galw cyn Sul y Cofio, fod dadansoddiad gan wyddonwyr Coleg Prifysgol Llundain yn awgrymu y gallai'r cynllun newydd leihau allyriadau 40%.

Dyma’r ailgynllunio cyntaf o’r pabi ers canol y 1990au a’r diweddaraf mewn cyfres o ddyluniadau ers iddo gael ei ddefnyddio gyntaf i godi arian yn 1921 yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bydd yr holl arian a godir yn cefnogi personél sy’n gwasanaethu, cyn-filwyr a’u teuluoedd mewn amrywiaeth o ffyrdd, o gymorth gyda chostau byw, lles meddwl a thai, i gymorth gydag adferiad ar ôl trawma neu salwch.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.