Trafodaethau ar gytundebau newydd i feddygon teulu yng Nghymru wedi methu
Trafodaethau ar gytundebau newydd i feddygon teulu yng Nghymru wedi methu
Mae trafodaethau ar gytundebau newydd i feddygon teulu rhwng Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a Phwyllgor Meddygon Teulu BMA Cymru (GPC Cymru) wedi methu.
Mae hyn wedi arwain at rybudd gan arweinwyr Meddygon Teulu yn y maes Ymarfer Cyffredinol, ac o ganlyniad, mae Pwyllgor Meddygon Teulu BMA Cymru yn rhagweld y gallai cleifion ddioddef.
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth ymateb nos Lun nad ydyn nhw’n gallu fforddio cynnig rhagor o arian i feddygon teulu.
Fe wnaeth Cadeirydd GPC Cymru, Dr Gareth Oelmann, anfon llythyr agored at feddygon teulu ar hyd a lled Cymru yn cyhoeddi'r datblygiad.
"Nid oedd y setliad ariannol a gafodd ei gynnig gan Lywodraeth Cymru yn cyd-fynd gyda'n disgwyliad rhesymol ni o godi gwerth y cytundeb a fyddai'n helpu i wrthsefyll yr effaith niweidiol ar gostau staffio a phractisiau," meddai.
"Gyda dim cynnig ariannol credadwy wedi ei gynnig a dim mesurau lliniaru sylweddol wedi eu cynnig chwaith, ni fyddai unrhyw fudd o ymestyn y broses o drafod.
"Oni bai bod yna gynigion newydd ac arwyddocaol yn cael eu cynnig gan Lywodraeth Cymru, nid ydym ni'n rhagweld trafodaethau pellach ar gytundeb eleni."
Dywedodd BMA Cymru trwy drafod gyda Llywodraeth Cymru a’r gwasanaeth iechyd bod modd llunio cynllun achub ond bellach bod y trafodaethau wedi dod i ben heb gytundeb.
Dywedodd datganiad ar ran Gweinidog Iechyd Cymru Eluned Morgan ei bod yn deall y teimladau a bod gan weithwyr o fewn y sector gyhoeddus yn gyffredinol ddymuniad i gael gwell cydnabyddiaeth ond nad yw Llywodraeth Cymru yn gallu fforddio cynnig mwy o arian ar hyn o bryd oni bai bod nhw yn eu tro yn cael mwy o arian gan Lywodraeth y DU.
Ychwanegodd ei bod yn barod i drafod ymhellach gyda’r undebau a Phwyllgor Meddygon Teulu BMA Cymru.
Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn cael mwy o arian nag erioed o’r blaen.