Newyddion S4C

Ysbyty Treforys yn parhau dan 'bwysau aruthrol'

24/10/2023
Treforys

Mae Bwrdd Iechyd Bae Abertawe wedi cyhoeddi bod Ysbyty Treforys yn parhau o dan bwysau aruthrol wrth i’r adran Achosion Brys ‘ddelio â niferoedd uchel o gleifion sâl iawn’.

Mae'r Bwrdd yn rhybuddio pobl sydd â mân anafiadau neu symptomau ysgafn eu bod yn “debygol o orfod aros am yn hir iawn” os yn mynd i’r adran achosion brys.

Mae’r Bwrdd Iechyd yn gofyn i bobl ystyried ffyrdd eraill o gael cymorth. 

Mewn diweddariad am y sefyllfa ddydd Mawrth, dywedodd y bwrdd: “Mae'r pwysau ar ein gofal heb ei drefnu yn parhau, ac rydym yn apelio ar ffrindiau a theuluoedd cleifion yn yr ysbyty ar draws Bae Abertawe i'n helpu i'w rhyddhau ar amser.

“Drwy leihau oedi diangen i ryddhau cleifion gallwn wella llif cleifion trwy'r ysbyty a fydd, yn ei dro, yn helpu i gyflymu trosglwyddo ambiwlansys fel y gallant fynd yn ôl i'r gymuned yn gyflymach. 

“Mae hefyd yn well i les cleifion fynd adref cyn gynted ag y byddant yn ddigon da, gan y gall arosiadau hir diangen yn yr ysbyty effeithio ar eu hadferiad ac effeithio ar eu lles.”

Nos Sul, fe wnaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru gyhoeddi "digwyddiad eithriadol" oherwydd yr oedi wrth drosglwyddo cleifion. 

Dywedodd y gwasanaeth ei fod yn gofyn i bobl alw 999 os oedd eu hargyfwng yn “bygwth bywyd neu anaf difrifol” yn unig.

“Rydym wedi datgan digwyddiad eithriadol oherwydd oedi wrth drosglwyddo mewn ysbytai ledled Cymru,” medden nhw.

Ychwanegodd y gwasanaeth ei fod “yn benodol ar draws ardal Bae Abertawe”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.