Y Groes Goch yn cadarnhau bod dau wystl arall wedi'u rhyddhau gan Hamas
Y Groes Goch yn cadarnhau bod dau wystl arall wedi'u rhyddhau gan Hamas
Mae’r Groes Goch Ryngwladol wedi cadarnhau bod adian filwrol Hamas, Brigâd Qassam, wedi rhyddhau dau wystl arall yn Gaza.
Fe fu Qatar a’r Aifft yn cydlynu er mwyn rhyddhau’r gwystlon Nurit Yitzhak a Yocheved Lifshitz, ar sail rhesymau dyngarol ac iechyd.
Daeth cadarnhad gan y Groes Goch Ryngwladol o'r datblygiad diweddaraf mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol nos Lun.
Inline Tweet: https://twitter.com/ICRC/status/1716534758396555362
Yn ôl adroddiadau mae 222 o bobl yn cael eu dal yn wystlon gan Hamas yn Gaza.
Mae gweinyddiaeth Iechyd Gaza yn dweud fod 5,000 o bobl wedi eu lladd yno ers i ymosodiadau Israel ddechrau.
Dechreuodd ymgyrch Israel wedi i Hamas ladd mwy na 1,400 o Israeliaid mewn nifer o gyrchoedd yn Israel ar 7 Hydref.
Mae cyflwynydd a gohebydd Newyddion S4C, Iwan Griffithis allan yn Jerwsalem a bu’n siarad gyda’r Iddewes Yuval Inbar sy’n byw yn y ddinas.
Dywedodd nad oes hapusrwydd bellach yn Israel yn dilyn y tywallt gwaed diweddar:
“Ddim yn normal, a dwi ddim yn gwybod pryd fydda ni’n normal eto,” meddai Yuval.
Ymosodiadau
Mae'r Weinyddiaeth Iechyd yn Gaza yn dweud bod 436 o bobl wedi eu lladd yno yn y 24 awr ddiwethaf, wrth i ymosodiadau'r Israeliaid barhau.
Yn ôl Israel, maen nhw'n targedu isadeiledd Hamas, sydd yn cynnwys 320 o dargedau bob dydd.
Mae Israel wedi gorchymyn i bawb yng ngogledd Gaza i adael y rhanbarth, gan symud i dde'r diriogaeth.
Dros y penwythnos, rhybuddiodd byddin Israel y byddai'r ymosodiadau awyr ar Gaza yn dwysau gan rybuddio Palesteiniaid sy'n dal i fod yng ngogledd y diriogaeth i ffoi i'r de.
Ond mae’r dasg honno “bron yn amhosibl” meddai llefarydd ar ran Sefydliad Iechyd y Byd, Tarik Jašarević, ac mae’r sefydliad yn galw ar Israel i ailystyried y gorchymyn hwnnw.
“Mae yna gleifion sydd yno na ellir eu symud yn syml, mae yna lawer ar beiriannau anadlu mecanyddol, mae yna fabanod newydd-anedig yn derbyn triniaeth, pobl mewn amodau ansefydlog, ac mae'n anodd iawn eu symud,” meddai mewn cyfweliad gyda’r BBC.
“Rydyn ni’n galw ar Israel i ailystyried y gorchymyn hwn,” meddai.
Cymorth
Yn ôl yr Unol Daleithiau mae Israel wedi cytuno y bydd “llif parhaus” o gymorth yn cael ei ganiatáu i mewn i Lain Gaza – ar ôl i ail gonfoi gyrraedd y diriogaeth o’r Aifft.
Dywedodd y Cenhedloedd Unedig fod yr 14 tryc a gyrhaeddodd ddydd Sul wedi rhoi “llygedyn bach arall o obaith” i Balesteiniaid - ond rhybuddiodd fod angen “mwy, llawer mwy.”
Dywedodd Mr Jašarević fod pedwar tryc oedd yn cario deunydd llawfeddygol a thrawma, yn ogystal â meddyginiaethau ar gyfer clefydau cronig wedi cyrraedd Gaza trwy groesfan ffin Rafah yn ddiweddar, “ond nid yw hynny yn ddigon”.
Mae'r awdurdodau ym Mhalestina yn dweud fod 4,651 o bobl wedi marw yn Gaza ers cychwyn y gwrthdaro ar 7 Hydref, gyda 14,245 o bobl wedi eu hanafu.
Daw hynny wedi i o leiaf 1,405 o bobl gael eu lladd yn Israel mewn ymosodiadau gan Hamas, gyda 5,132 o bobl yno wedi eu hanafu.