Newyddion S4C

Caniatâd i ail ddatblygu Pentref Pwylaidd Penrhos

23/10/2023

Caniatâd i ail ddatblygu Pentref Pwylaidd Penrhos

Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd wedi rhoi caniatâd i ail ddatblygu Pentref Pwylaidd Penrhos ger Pwllheli. 

Mae Cymdeithas Tai ClwydAlyn yn bwriadu dymchwel dros gant o unedau preswyl a chodi tai fforddiadwy yn eu lle. 

Mae sôn hefyd y gallai cartref gofal gael ei godi yno. Ond mae rhai o'r bobl sy'n byw yno yn poeni am eu dyfodol.

Mae cysylltiad y Pwyliaid a Phen Llŷn yn mynd yn ol i’r Ail Ryfel Byd, pan ymsefydlodd peilotiaid ar y safle. Yn ddiweddarach, cafodd ffoaduriaid Pwylaidd  eu cartrefu yno. 

Bellach, mae Cymdeithas Tai ClwydAlyn wedi cael caniatâd cynllunio i ail ddatblygu’r safle. Ond maen nhw'n dweud na fydd angen i'r trigolion lleol symud oddi yno, ond yn hytrach, bydd modd iddyn nhw symud i’r cartrefi newydd pan fyddan nhw wedi eu hadeiladu.

Mae'r cynghorydd lleol, Angela Russell yn croesawu'r datblygiad: "Dw i'n falch achos ma' be' sy gen Penrhos i gynnig yn fama yn mynd i fod yn rhywbeth fydd Cymru gyfan yn sbïo arno fo. Ma' gynnon ni rywbeth sbesial yn fama i fynd â gofal i'r dyfodol, a dyna'n union be' 'den ni isio. 

"Bydd 'na storm a fydd na donnau am ryw gyfnod, ond 'dw i'n siwr y bydd e'n beth da i ni yma"     

Ond mae Barbara Owsianka sydd â rhieni yn  byw ym Mhenrhos yn poeni am y datblygiad: " Y cais sydd wedi cael ei pasio heddiw. Mae 'na weledigaeth gwych wedi ei gyhoeddi gan Gyngor Gwynedd. Mae'r weledigaeth ar gyfer cartre' nyrsio a preswyl, tai efo gofal ychwanegol, ond yn anffodus, mae'r cais oedd wedi mynd o flaen y cyngor heddiw jyst ar gyfer codi tai a dymchwel y pentref cyfan  jyst iawn. 

"A does dim byd yn y cynllun i roid yn ôl y cyfleusterau mae pobl yn dibynnu arnyn nhw. "         

Dywedodd llefarydd ar ran cymdeithas Tai ClwydAlyn  eu bod yn falch iawn eu bod nhw wedi cael caniatad cynllunio a’u bod nhw’n benderfynnol o barhau efo’r teimlad cryf o gymuned sydd ym Mhenrhos.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.