Newyddion S4C

Cyn-heddwas wedi casglu delweddau anweddus gan dros 200 o ddioddefwyr ifanc

23/10/2023

Cyn-heddwas wedi casglu delweddau anweddus gan dros 200 o ddioddefwyr ifanc

Mae llys wedi clywed fod cyn-heddwas gyda Heddlu'r De wedi bod yn gyfrifol am gyflawni blacmel yn achos dros 200 o ferched yn eu harddegau yr oedd wedi eu perswadio i anfon delweddau anweddus o'u hunain iddo. 

Fe wnaeth Lewis Edwards, 23, feithrin perthynas amhriodol gyda 210 o ferched ifanc rhwng 10 ac 16 oed ar Snapchat dros gyfnod o dair blynedd.

Roedd wedi esgus bod yn fachgen 14 oed, gan orfodi ei ddioddefwyr i ddarparu fideos a delweddau anweddus ohonyn nhw eu hunain, yr oedd wedyn yn eu recordio yn gudd.

Defnyddiodd y deunydd anweddus i flacmelio ei ddioddefwyr i anfon rhagor o ddelweddau ato. 

Fe wnaeth Edwards, a ymunodd gyda’r heddlu ym mis Ionawr 2021, bledio’n euog i 162 o droseddau rhyw yn ymwneud â phlant mewn gwrandawiad blaenorol.

Gwrthododd fynychu ei wrandawiad dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun, ac mae'n cael ei gynnal yn ei absenoldeb.

Cyrch

Dywedodd Roger Griffiths ar ran yr erlyniad fod ditectifs wedi cynnal cyrch ar y cartref yr oedd Edwards yn ei rannu gyda’i rieni ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Chwefror eleni gan ddod o hyd i ffonau symudol, cyfrifiadur, a ffyn USB.

Clywodd y llys fod Edwards mewn cysylltiad â 210 o ferched rhwng Tachwedd 2020 a Chwefror 2023 a bod swyddogion wedi dod o hyd i ddelweddau yn ymwneud â 207 o ddioddefwyr.

Mewn datganiad effaith dioddefwr, disgrifiodd un ferch Edwards fel “pedoffeil” gan ychwanegu: “Roeddwn i’n ferch fach. Rwy'n teimlo embaras, wedi fy ffieiddio a chael fy ngham-drin. Collais fy niniweidrwydd.

“Rwy’n gwybod bod yr heddlu yno i’n helpu ond sut gallaf ffonio’r heddlu nawr os ydw i mewn perygl? Ni fyddwn yn gallu ymddiried yn y bobl sydd yno i’n cadw’n ddiogel.”

Mae disgwyl i'r gwrandawiad bara am dridiau yn Llys y Goron Caerdydd.

 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.