Carcharu dyn am oes am lofruddio tad a mab wedi ffrae deuluol
Mae dyn wedi cael ei garcharu am oes am lofruddio tad a mab wedi ffrae deuluol.
Clywodd Llys y Goron Caergrawnt fod Stephen Alderton, 67, wedi ysgrifennu mewn negeseuon blaenorol y byddai'n "diystyru unrhyw benderfyniad yn y llys" ac fod yna "o hyd Gynllun B".
Dywedodd yr erlynydd Peter Gair fod y cyn syrfëwr wedi saethu'r ddau ddyn yn farw ar 29 Mawrth eleni, ddau ddiwrnod wedi gwrandawiad llys teulu.
Plediodd Alderton yn euog mewn gwrandawiad blaenorol i lofruddio Joshua Dunmore, 32, a'i dad, Gary Dunmore, 57.
Cafodd Joshua a Gary Dunmore eu darganfod yn farw yn eu cartrefi yn Bluntisham a Sutton, chwe milltir i ffwrdd o'i gilydd, yn Sir Caergrawnt ar 29 Mawrth eleni.
Fe wnaeth y barnwr Mark Bishop ddisgrifio'r llofruddiaethau fel "dienyddiad" gan ddweud wrtho: "Fe wnaethoch chi wneud y penderfyniad i roi diwedd ar fywyd dau ddyn diniwed."
Ychwanegodd fod Alderton wedi gwneud hyn yn sgil ei farn am brosesau llys teulu yn ymwneud â'i ŵyr yn dilyn "gwrandawiad interim, ac nid un terfynol ar 27 Mawrth."
Wedi i Alderton gael ei arestio ychydig oriau yn ddiweddarach gan swyddogion arfog ar draffordd, dywedodd wrth yr heddlu: "Weithiau, mae'n rhaid i chi wneud yr hyn sy’n rhaid i chi ei wneud hyd yn oed os yw'n anghywir yn llygaid y gyfraith."
Dywedodd yr erlynydd Peter Gair: "Mae hi'n glir fod y digwyddiadau wedi digwydd yn sgil achos llys teulu parhaus rhwng merch y diffynnydd, Samantha Stephen, Alderton gynt, a'i chyn bartner Joshua Dunmore."
Roedd Mrs Stephen eisiau caniatâd i symud eu plentyn saith oed i America.
Ychwanegodd Mr Gair fod perthynas Mrs Stephen a Mr Dunmore wedi dod i ben yn fuan ar ôl i'w mab gael ei eni ac yn 2020, fe briododd hi ei phartner presennol, Paul Stephen.
Dywedodd Mr Gair fod Mr Stephen yn Americanwr ac wedi gwasanaethu gydag awyrlu'r UDA.
Yn ôl Mr Gair, roedd Mr Stephen i fod i gael ei adleoli yn ôl i UDA ac roedd y cwpl yn "ceisio caniatâd gan y llys teulu ac roedd Joshua yn gwrthwynebu'r cais."
Yn dilyn y gwrandawiad ar 27 Mawrth, daeth i'r amlwg ei bod yn debygol "na fyddai'r plentyn yn cael ei dynnu o'r awdurdoaeth."
Dywedodd Adrian Langdale KC ar ran Alderton fod ei wraig wedi marw ym mis Rhagfyr 2019.
Ychwanegodd Mr Langdale fod y diffynnydd wedi ysgrifennu mewn llythyr: "Dwi ddim yn gwybod beth ddigwyddodd i mi ar 29 Mawrth."