Newyddion S4C

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn datgan ‘digwyddiad eithriadol’ o achos oedi

23/10/2023
Ambiwlans

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi datgan "digwyddiad eithriadol".

Ar nos Sul, fe ddywedodd y gwasanaeth ei fod yn gofyn i bobl alw 999 os oedd eu hargyfwng yn “bygwth bywyd neu anaf difrifol” yn unig.

“Rydym wedi datgan digwyddiad eithriadol oherwydd oedi wrth drosglwyddo mewn ysbytai ledled Cymru,” medden nhw.

Ychwanegodd y gwasanaeth ei fod “yn benodol ar draws ardal Bae Abertawe”.

Ddydd Llun, fe wnaeth Bwrdd Iechyd Bae Abertawe ryddhau datganiad yn dweud bod Ysbyty Treforys “o dan bwysau eithriadol ac yn ymdrin â niferoedd uchel o gleifion sâl iawn.”

Roeddent yn rhybuddio pobl oedd gyda mân anafiadau neu salwch nad oedd yn ddifrifol, y byddent yn “debygol o orfod disgwyl am yn hir iawn” os yn mynd i’r adran argyfwng brys.

Daw hyn wedi adroddiadau fod 16 ambiwlans yn aros y tu allan i uned achosion brys yr ysbyty ddydd Sul.

'Bygwth bywyd'

Wrth ymateb, fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig ddisgrifio’r oedi fel sefyllfa sydd yn "bygwth bywyd."

Fe ddywedodd Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George y byddent yn sefydlu gwestai gofal ac annog cyn staff y GIG i fod yn weithwyr wrth gefn petai nhw mewn grym, er mwyn mynd i afael â’r sefyllfa.

“Mae’r enghraifft erchyll hon o oedi sy’n bygwth bywyd yn symptom o fethiant ehangach Llafur i redeg ein GIG Cymreig yn iawn,” meddai Russell George AS.

“Er gwaethaf cyhoeddiadau diweddar ynghylch cyllid, mae’r gyllideb iechyd wedi’i thorri o hyd mewn termau real eleni, gan ein rhoi mewn sefyllfa ddifreintiedig unigryw o gymharu â chenhedloedd eraill y DU sy’n esbonio ein harosiadau hirach y tu mewn a’r tu allan i ysbytai.

“Mae ein barn ni’n glir, mae gan Lafur y blaenoriaethau anghywir – pe na bai eu sylw nhw ar wario arian hanfodol ar fwy o wleidyddion a chyfyngiadau cyflymder 20mya cyffredinol, fe fydden nhw mewn gwell sefyllfa i drwsio ein GIG yng Nghymru.

“Byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn edrych ar y broblem yn ei chyfanrwydd. Er bod angen newid enfawr mewn gofal cymdeithasol, er mwyn mynd i’r afael â’r broblem yn ystod pwysau’r gaeaf sydd ar fin digwydd, byddem yn sefydlu gwestai gofal ac yn annog cyn staff y GIG i ddod yn filwyr wrth gefn i atal ambiwlansys rhag ciwio y tu allan i ysbytai.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn wynebu'r sefyllfa ariannol anoddaf ers datganoli, ond rydym wedi diogelu ein cyllideb GIG.

"Rydym yn buddsoddi mewn gofal brys yr un diwrnod a gwelyau cymunedol ychwanegol yn ogystal ag atebion integredig gyda gwasanaethau gofal cymdeithasol i wella llif cleifion drwy ysbytai; a mynd i'r afael ag oedi trosglwyddo ambiwlansys.

"Rydym yn pryderu am y lefelau o oedi trosglwyddo cleifion ambiwlans a adroddwyd yn Ysbyty Treforys ac ar draws Cymru. Rydym yn ceisio sicrwydd gan fyrddau iechyd am y camau a gymerwyd i ddad-ddwysáu pwysau parhaus, a achosir gan gynnydd yn y galw a phroblemau llif cleifion. Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n agos."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.