Newyddion S4C

Gwyliwch: A wnaeth Capten De Affrica ddweud ‘diolch’ ar ôl i’w dîm guro Lloegr?

22/10/2023
Siya Kolis

Mae capten De Affrica wedi cael ei ganmol gan wylwyr yng Nghymru am ddweud “diolch” ar ôl i’w dîm guro Lloegr er mwyn cyrraedd ffeinal Cwpan Rygbi’r Byd.

Wrth gael ei gyfweld ar ôl y gêm fe wnaeth Siya Kolisi ddweud “Thank you” yn Saesneg wedi i’r cyfwelydd ei longyfarch ar gyrraedd y rownd derfynol.

Ac mae nifer o wylwyr o Gymry wedi eu hargyhoeddi ei fod wedi dweud “diolch” hefyd.

Xhosa yw iaith gyntaf Siya Kolisi ac mae hefyd yn siarad Afrikaans a Saesneg yn rhugl.

Bu capten y Springboks yn chwarae i dîm yn nhîm y Sharks yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig rhwng 2020 a 2022 ac felly wedi arfer cyfarch y cyfryngau yng Nghymru.

Cyhoeddodd Cwpan Rygbi’r Byd y fideo ar-lein yn ddiweddarach ac roedd nifer o Gymry yn synnu eu bod nhw’ wedi clywed yr un peth.

Fe wnaeth cwmni Ceir Cymru ganmol Siya Kolisi ar eu cyfrif am “ddangos mwy o barch i’r Gymraeg” na sawl un arall ym myd rygbi.

“O ddifrif yn credu bod o wedi dweud diolch,” meddai.

“O’n i’n meddwl yr un fath!” meddai cyfrannwr arall.

“Kolisi yn dweud ‘diolch’ mewn cyfweliad ar ôl y gêm - am foi!” meddai Peter Thomas.

“Mae angen iddo fynd ar Iaith ar Daith,” meddai cyfrannwr o’r enw Gareth.

“Ai dylanwad Aled Walters yw hyn?” gofynnodd Rhys Ffrancon, gan gyfeirio at bennaeth perfformiad athletaidd De Affrica pan wnaethon nhw ennill Cwpan Rygbi’r Byd yn 2019.

“Diolch i ti Siya Kolisi a phob lwc wythnos nesaf,” meddai Anne Davies.

‘Gwaith caled’

Roedd y ffefrynnau De Affrica o fewn trwch blewyn i golli eu lle yn rownd derfynol Cwpan Rygbi’r Byd gyda Lloegr ar y blaen hyd nes munudau olaf y gêm.

11 munud cyn y diwedd roedd Lloegr 15-6 ar y blaen cyn i Dde Affrica grafu eu ffordd yn ôl i mewn i’r ornest gyda chais gan Rudolph Snyman a chic gosb gan Handre Pollard.

“Rwy'n rhoi pob clod i Loegr,” meddai Siya Kolisi. “Maen nhw wedi gweithio'n galed, ac roedd nifer wedi dweud nad oedd ganddyn nhw gyfle cyn Cwpan y Byd.

"Yr hyfforddwr Steve ac Owen a'r tîm, fe wnaethon nhw dynnu eu hunain at ei gilydd ac fe ddangoson nhw pwy ydyn nhw.

“Dydyn nhw ddim yn dîm i’w cymryd yn ysgafn. Felly pob clod iddyn nhw am wneud yr holl waith caled a bod yn y rownd gynderfynol.”

Fe fydd De Affrica nawr yn wynebu Seland Newydd yn y ffeinal ddydd Sadwrn nesaf.

Llun: Stefano Delfrate.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.