Newyddion S4C

'Braint cael cynrychioli pobl fyddar' wrth chwarae pêl-rwyd dros Ynys Môn

22/10/2023

'Braint cael cynrychioli pobl fyddar' wrth chwarae pêl-rwyd dros Ynys Môn

Fe fydd hi'n "fraint" i ddynes ifanc gynrychioli pobl fyddar fel rhan o dîm pêl-rwyd Ynys Môn sydd yn cystadlu yng Ngemau Pêl-rwyd yr Ynysoedd fis nesaf. 

Yn wreiddiol o Lanfairpwll ond bellach yn gweithio fel nyrs yng Nghaerdydd, bydd Elan Môn Gilford yn teithio gyda thîm pêl-rwyd yr ynys i Ynys Manaw i gymryd rhan yn y gemau a fydd yn cynnwys ynysoedd eraill - o Guernsey i Jersey i Orkney. 

Mae Elan wedi bod yn fyddar ers yn blentyn, ac yn awyddus i ddangos nad yw hyn yn ei rhwystro.

"Ges i meningitis digwydd bod pan o’n i ddwy oed, dydyn nhw ddim yn siwr iawn os mai menigitis oedd o ond eshi’n sâl a neshi golli fy nghlyw i gyd a dwi wedi tyfu fyny trwy cynradd, uwchradd, mynd i coleg, gweithio fel nyrs rwan llawn amser yn fyddar," meddai wrth Newyddion S4C.

"Felly mae’n fraint rili cael cynrychioli pobl byddar mewn ffordd pan dwi’n mynd i chwarae pêl-rwyd i Ynys Manaw - fedra i neud o so fedrith rywun neud o mewn ffordd."

Mae teulu Elan wedi bod yn ddylanwad mawr arni yn y byd chwaraeon.

"Dwi 'di gafael mewn pêl ers i fi gael fy ngeni achos fy nhad. I fi, fy nhad ydi’r dylanwad a fy nhaid, y ddau yn ofnadwy am bêl-droed. Dwi ddim yn dda iawn yn chwarae pêl-droed felly pêl-rwyd oedd y peth gora’ nesa i bêl-droed a wedyn ers hynny, dwi wedi bod yn chwara."

Image
Mae Elan wedi bod yn chwarae pêl-rwyd ers yn blentyn ifanc.
Mae Elan wedi bod yn chwarae pêl-rwyd ers yn blentyn ifanc.

Mae gwneud rhai pethau syml o fudd mawr i Elan ar y cwrt pêl-rwyd. 

"I fi, ma’ arwyddion yn bob dim mewn pêl-rwyd, felly pan ma’r umpires yn dyfarnu a ballu, ma’ nhw angen bod yn glir a ma’ hynna yn neud coblyn o wahaniath achos pan ‘dyn nhw ddim yn glir, dwi’m yn gwbod be sy’n mynd ‘mlaen," meddai.

"Dwi’m yn clywad y chwiban weithia' achos bod o mor uchal – ma’ hwnna yn un o’r heria’ mwya’ dwi’n wynebu mewn ffordd yn chwara pêl-rwyd ond eto visual awareness fel dwi’n neud ar y cwrt a darllen y gêm."

Fe gyrhaeddodd tîm Cymru Gwpan Pêl-rwyd y Byd ym mis Mehefin eleni, gan orffen yn y nawfed safle, ac maen nhw yn hefyd yn y nawfed safle yn rhestr detholion pêl-rwyd y byd. 

Mae gan Netball Cymru o gwmpas 10,000 o aelodau, sydd yn cynnwys 230 o glybiau a 28 o gynghreiriau ar draws y wlad.

Image
Y tîm pêl-rwyd fydd yn teithio i Ynys Manaw.
Y tîm pêl-rwyd fydd yn teithio i Ynys Manaw.

Mae'r gêm bêl-rwyd yn mynd o nerth i nerth yn ôl Elan. 

"Dwi’n meddwl bod o’n ofnadwy o bwysig, ma’ pêl-rwyd yn tyfu wan yng Nghymru, ma’ ‘na gymaint o genod yn chwara' a ma’n cael ei chwara' mewn ysgolion, clybia’, ma’n mynd yn fwy ag yn fwy ag yn fwy," meddai.

"Dwi’n cofio pan o’n i fel 13, 14 oed yn chwara, oedd o ddim mor fawr, o’dd o’n fawr ond ma’n massive wan a ma’n braf gweld o’n tyfu a gymaint o genod yn chwara."

'Codi ymwybyddiaeth'

Er y cyffro o gael cynrychioli Ynys Môn yn y gemau, mae angen i'r merched ddod o hyd i noddwyr neu wynebu gorfod ariannu eu ffordd eu hunain i fynd draw i Ynys Manaw. 

Mae hyn wedi bod yn heriol yn ôl Elan, yn enwedig gan bod pobl ifanc hefyd yn cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw. 

"Yn anffodus, ma’ lot ohona ni yn gorfod chwilio am wahanol math o noddwyr," meddai.

"Dwi wedi bod yn ffodus drwy Olew Gewynnau, ma’ nhw wedi digwydd bod noddi fi i gael mynd draw i chwara so ma’ genna fi ddiolch mawr i roi i nhw am roi’r pres i fi neu ‘swn i methu mynd fel arall efo costau byw, dwi’n gweithio llawn amsar hefyd, ma’ genna fi dy i dalu a ‘di petha ddim yn hawdd so dwi’n ffodus ofnadwy."

Image
Elan Gilford
Mae Elan yn gobeithio gallu cynrychioli pobl fyddar pan yn cynrychioli Ynys Môn fis nesaf.

Er ei bod yn teimlo'n rhwystredig ar adegau, mae cyd-chwaraewyr a hyfforddwyr Elan wedi bod, ac yn parhau i fod, o gymorth mawr iddi. 

"Dwi’n ffeindio fo’n anodd weithia bo’ fi’n goro egluro fy hun. Dwi’n cyrradd y pwynt ‘na ‘Pam dwi jyst ddim fel pawb arall?’ fel ‘na dwi’n teimlo weithia ond ma’n bwysig dangos i bobl iau sy’n fyddar bo’ nhw’n gallu gneud o hefyd," meddai.

"Ma’ genno fi genod rili da ar y tîm, ma’ nhw’n dalld bo’ fi ddim yn clywad so ‘dan ni’n gweithio’n dda fel tîm. Ma’r coach yn ffantastig hefyd, ma’ hi’n gwneud yn siwr bo’ fi’n clywad yn training, dalld be sy’n mynd ‘mlaen."

Mae Elan yn gobeithio y bydd chwarae yn y gemau yn codi ymwybyddiaeth o'r Gymraeg.

"Yn bersonol, gobeithion fi efo mynd i Ynys Mnaaw ydi codi ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg, y ffaith bo’ ni’n dîm o Ynys Môn, ‘dan ni’n dîm o ferched ifanc.

"Dio’m am dan ennill, ‘sa’n lyfli ennill y gystadleuaeth – ma’ hynna yn un o’r gobeithion ond ‘sa’n neis jyst hybu bod ‘na dima’ ffantastig yn bob man."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.