'You’ll never be Welsh, you will go home one day': Cyflwynydd S4C yn galw am gyfreithiau hiliaeth llymach
'You’ll never be Welsh, you will go home one day': Cyflwynydd S4C yn galw am gyfreithiau hiliaeth llymach
Mae cyflwynydd S4C yn galw am gyfreithiau llymach yn dilyn cael ei gam-drin yn hiliol ar-lein yn ystod yr Eisteddfod eleni.
Ar ôl i Ameer Davies-Rana bostio llun ohono ef, Sage Todz a Lloyd Lewis yn mwynhau yn y brifwyl gyda’r geiriau ‘Dyfodol y Gymraeg’, fe dderbyniodd nifer o ymatebion hiliol.
“Y peth cynta’ nes i weld oedd ‘Where the Welsh people at’. Wedyn un person yn ateb i’r person yna: ‘You’ll never be Welsh, you will go home one day'.
"‘Go back to where you belong, you dirty subhumans. Within the decade, you people will be crying to go home shortly before a bullet enters your skulls. At least you won’t have to live with the fact that you made the wrong decision.’
“Rwyt ti’n rhyw fath o ddisgwyl e yn Saesneg. Ond mae un person wedi dweud: ‘Yr unig Gymry yn y llun yma di’r rhai yn y cefndir, dyna di’r gwir amdani’.”
Yn ôl Ameer, sy’n cyflwyno rhaglen Y Byd ar Bedwar arbennig ar Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb, mae angen rhoi cosbau llymach i’r rheiny sy’n cam-drin eraill yn hiliol ar-lein.
“Mae’r bobl yma’n cuddio tu ôl i’r sgrîn yn dweud pethau negyddol, creulon, jyst i drio ypsetio rhywun. Sut ydych chi’n gallu dweud petha fel yna a chael getaway gyda fe? Wna’i fyth deall hynny. Mae’n rhaid i hynny newid.”
Mae’r Llywodraeth yn dweud bod ei Bil Diogelwch Ar-lein yn mynd i gyflwyno trosedd newydd am gyfathrebu bygythiol arlein fel bod gan yr heddlu ac erlynwyr fwy o bŵer i gosbi troseddwyr.
'Ymosod'
Un arall sydd wedi profi hiliaeth yn ddiweddar yw Naveena Mosabbir o Aberteifi. Mae Naveena’n ferch i ddau riant o Fangladesh ddaeth i Gymru yn y 1990au.
“Ro’n i mas ar Noswyl San Steffan yn Y Drenewydd… roedd lot o ddadlau yn mynd ymlaen yn y clwb. Ro’n i’n gweld y problemau ac yn trïo gwahanu pawb. Yn ystod y ddadl, na’th rhywun weiddi P***. Na’th hynny daro fi.”
Ond ar ôl i Naveena fynd tu allan i’r clwb nos, fe wnaeth yr ymosodiad droi’n un corfforol
“Mae dyn yn rhedeg ataf i, a jyst ymosod arnaf i. Do’n i ddim yn gwybod pwy oedd e.”
Yn ôl Naveena, roedd y dyn a’i gariad yn gweiddi pethau hiliol ati cyn ac ar ôl yr ymosodiad.
Fe gafodd Naveena anaf difrifol i’w hasennau.
“Oeddwn i am dri mis heb waith oherwydd fy mhoen i. Roedd y boen yn annioddefol.”
'Ddim yn deg'
Dim ond rhybudd gafodd y dyn wnaeth ymosod arni yn ôl Naveena, gan nad oedd sain ar y lluniau camera cyfyng. Ond i Naveena, roedd mwy o siom i ddod.
“Chwe mis ar ôl y digwyddiad yma, ro’n i mas gyda ffrindiau fi eto. Roedden ni’n dawnsio ac yn cael noson wych. Yna na’th un ferch, yn Y Drenewydd unwaith eto, redeg a jyst ymosod arnaf i, fy nyrnu i ar ochr fy mhen a thynnu fy ngwallt. Roedd e’n mental bod hyn yn digwydd eto.”
Fe wnaeth y ddynes ymosododd ar Naveena bledio’n euog am ymosodiad hiliol ac aflonyddu. Fe glywodd y llys ei bod wedi sgrechian ar Naveena a gofyn iddi ‘fynd ‘nôl i’w gwlad ei hun’.
Fe wnaeth y ddynes dderbyn dedfryd o unarddeg mis yn y carchar, wedi ei gohirio am ddeunaw mis. Ond nid oedd Naveena’n hapus pan glywodd hi beth odd y gosb.
“Dydy fy llais heb gael ei glywed. Pam? Dydy e ddim yn deg.
“Os byddai mwy o bobl frown yn y llysoedd, falle fyddai mwy o gydymdeimlad. Achos os nad wyt ti wedi mynd drwy’r profiad, fyddi di ddim yn deall sut mae’n teimlo.”
'Cefnogaeth'
Yn system gyfreithiol Cymru a Lloegr llynedd, 5% o farnwyr oedd o leiafrif ethnig - o gymharu â 18% o’r boblogaeth ehangach.
Yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae’n parhau i geisio rhoi stop ar gamdriniaeth hiliol o fewn cymdeithas, ac mae’r ffigyrau diweddaraf ar draws Cymru a Lloegr yn dangos lleihad yn y math yma o droseddau.
Mae cynnydd wedi bod yn nifer y troseddau hiliol a chrefyddol sydd wedi cael eu hadrodd i heddluoedd Cymru dros y pum mlynedd diwethaf, o 2,882 trosedd yn 2018/19 i 4,014 llynedd.
Ers haf 2023, mae Cyngor Hil Cymru wedi bod yn gweitho gyda’r heddlu er mwyn creu lle diogel i bobl sydd wedi cael eu camdrin yn hiliol allu rhoi gwybod i’r heddlu am y drosedd.
Yn ôl Ifeoluwa Ishola sy’n gweithio i’r elusen: “Dyw pobl o leiafrifoedd ethnig ddim eisiau peidio riportio troseddau. Ond efallai nad ydyn nhw’n gwybod lle i fynd na’r person iawn i gwrdd.
"Felly mae cael partner gyda Heddlu De Cymru yn ei gwneud hi'n haws i gael y gair allan.”
Mae troseddau casineb yn cael eu rhannu i gategorïau - hil, crefydd, anabledd, trawsrywedd a chyfeiriadedd rhywiol. Llynedd, roedd dwy allan o bob tair trosedd casineb yng Nghymru yn ymwneud â hiliaeth neu grefydd.
Mae’r Cwnstabl Paul Smith, Swyddog Troseddau Casineb, yn ymweld â Chyngor Hil Cymru’n wythnosol.
"Mae yna gefnogaeth gen i ac aelodau’r tîm troseddau casineb," meddai.
"Ac o'r timau plismona cymunedol lle mae'r dioddefwr hwnnw'n byw. Rydym hefyd yn cynnig cyfeirio pob dioddefwr trosedd casineb at ganolfan gymorth Casineb Cymru, sy’n rhan o’r cymorth i ddioddefwyr sy’n cynnig cymorth pwrpasol i’r unigolyn hwnnw.”
Y Byd ar Bedwar: Nos Lun am 20:00 ar S4C, S4C/Clic a BBC iPlayer