Pryder am glwstwr Covid-19 mewn pentref yn Sir Gâr

Mae pentref yn Sir Gâr wedi profi clwstwr o achosion o Covid-19 yn ddiweddar ac mae bellach ganddo un o'r cyfraddau uchaf yng Nghymru.
Mae Pontyberem, rhwng Caerfyrddin a Llanelli, wedi gweld clwstwr o achosion o'r feirws yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
Yn y saith diwrnod hyd at 3 Mehefin, roedd 124 achos o Covid-19 fesul 100,000 o'r boblogaeth yn ardal Glyn a Pontyberem - Sgeti yn Abertawe oedd yr unig ardal yng Nghymru gyda chyfradd uwch.
Mae Cyngor Sir Gâr wedi annog pobl yr ardal i ddilyn y canllawiau ac mae'r bwrdd iechyd lleol yn monitro'r sefyllfa yn y pentref.
Bu'n rhaid canslo gemau criced dros y penwythnos ac mae'r clwb rygbi lleol hefyd wedi cau ei ddrysau dros dro yn dilyn y cynnydd mewn achosion, yn ôl WalesOnline.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Google Maps