Newyddion S4C

Gwlad Pwyl yn cynnal ei hetholiad 'pwysicaf ers 30 o flynyddoedd'

15/10/2023

Gwlad Pwyl yn cynnal ei hetholiad 'pwysicaf ers 30 o flynyddoedd'

Fore Sul bydd miliynau o bobl ar draws Gwlad Pwyl yn bwrw eu pleidlais yn etholiad cyffredinol "pwysicaf y wlad ers 30 blynedd".

Y blaid Cyfraith a Chyfiawnder (PiC) sydd wedi bod mewn pŵer ers 2015, ond mae'r polau piniwn yn dangos bod y ddwy brif blaid yn agos iawn wrth i ddiwrnod yr etholiad gyrraedd.

Mae Sion Pennar yn newyddiadurwr llawrydd sydd yn byw yn ninas Poznań yng ngorllewin y wlad, ac mae'n dweud dyma yw'r etholiad pwysicaf ers degawdau.

"Mae'r ddwy brif blaid yn disgrifio hon fel yr etholiad bwysicaf ers 1989 ac mae hi'n dynn o ran y pictiwr gwleidyddol," meddai.

"Ma' gen ti blaid Cyfraith a Chyfiawnder, Law and Justice, sydd wdi bod mewn grym ers 2015, ma' nhw wedi arwain llywodraeth Geidwadol, sydd wedi cyfyngu er enghraifft ar hawl am erthyliadau, sydd wedi bod yn gefnogol iawn i Wcráin hyd at yn ddiweddar iawn.

"Ac yn eu herbyn nhw, mae Donald Tusk, cyn brif weinidog ac un aeth ymlaen i fod yn gadeirydd ar y Cyngor Ewropeaidd. Mae o yn arwain plaid mwy ryddfrydol."

Mewnfudo

Y brif thema sydd wedi bod wrth wraidd y ddadl ydy mewnfudo, yn enwedig wrth i nifer o Wcráin ffoi i Wlad Pwyl o ganlyniad i oresgyniad Rwsia.

Mae ymysg nifer o themâu eraill wedi bod wrth wraidd y dadlau tanllyd rhwng y prif bleidiau, ac mae pleidleiswyr yn dweud bod gwleidyddion wedi pwysleisio ar themâu emosiynol.

Mae Dr Marta Listewnik yn academydd yn yr adran Geltaidd ym Mhrifysgol Adam Mickiewicz ac yn gyfieithydd o'r Gymraeg i'r Bwyleg.

Un o’r prif ddadleuon sydd yn peri gofid iddi yw’r rhethreg gwrth-Undeb Ewropeaidd.

"Mae'r etholiad yma yn hollol bwysig i ni achos ma' llywodraeth presennol yn tueddu i ein tynnu ni i ffwrdd oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd, gwadu cyfraith yr UE," meddai. 

"Fel rhywun sy'n gweithio yn y maes addysg, yn y maes diwylliant hefyd wedi wedi gweld llawer iawn o dirywiad yn y meysydd yma yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf a dwi ddim isio hynny i barhau. 

"Mae'n bwysig i mi, mae gen i blentyn hefyd ag hoffwn i iddo fynd i'r ysgol normal lle does dim propaganda, lle does dim fersiwn gwrthdroedig o ein hanes ni yn cael ei cynnal i blant hefy, dwi eisiau iddo byw mewn gwlad heb propaganda ar y cyfryngau cymdeithasol."

Mwayfrif yn anhebygol

Mae system gyfrannol mewn lle yng Ngwlad Pwyl, sydd yn ei gwneud hi'n anodd i un blaid sicrhau mwyafrif yn y Senedd.

Un ffordd gall plaid sicrhau eu bod ganddynt gefnogaeth yn y Senedd yw trwy glymblaid, ac mae Mr Pennar yn credu bod hwn yn bosibilrwydd i'r ddau brif blaid.

"Mae'r pôl opiniwn yn awgrymu mai'r blaid sy'n llywodraethu sy'n mynd i ennill yr etholiad ond system gyfrannol sydd yma yng Ngwlad Pwyl ac er bod nhw'n debyg o gael tua 35% o'r pleidleisiau, dydyn nhw ddim yn debygol o gael mwyafrif," meddai. 

"Ma' plaid Donald Tusk, y blaid mwy ryddfrydol, ma' nhw ar tua 29%,30% o'r bleidlais, ond ma genna nhw gefnogaeth dwy blaid lai.

"Ma' 'na glymblaid barod yn fanno, fyswn i'n ddychmygu ar gyfer Donald Tusk ac mae'n bosib y gwnawn nhw lwyddo i gael mwy na hanner y seddi yn y Senedd Sejm.

"Ond ma'r dde eithafol, Konfederacja, ma' nhw hefyd yn debygol o gael seddi yn y Senedd a mi allen nhw greu clymblaid efo'r blaid sy'n llywodraethu ar hyn o bryd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.