Achosion amrywiolyn Delta bron a dyblu mewn pum diwrnod
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 81 achos newydd o amrywiolyn Delta wedi eu cadarnhau yng Nghymru ers 3 Mehefin.
Daw hyn a chyfanswm yr achosion o'r amrywiolyn a gafodd ei adnabod yn gyntaf yn India i 178.
Mae'r sefydliad iechyd hefyd yn rhybuddio bod awgrym fod yr amrywiolyn yn dechrau trosglwyddo yn y gymuned, gydag achosion yn cael eu hadnabod heb hanes teithio.
Dywed y corff fod y rhan fwyaf o'r achosion o'r amrywiolyn wedi crynhoi mewn clwstwr yng ngogledd Cymru a chlwstwr arall yn ne Cymru.
Ond, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi dechrau gweld achosion o'r amrywiolyn yn yr ardaloedd hyn ac mewn rhannau eraill o Gymru, heb gysylltiad â'r clystyrau.
'Testun pryder'
Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Llun, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, fod y dystiolaeth yn dangos fod amrywiolyn Delta yn trosglwyddo 40%-60% yn haws nag amrywiolyn Alffa a gafodd ei adnabod yn wreiddiol yng Nghaint.
Mae'r dystiolaeth hefyd yn awgrymu fod brechlynnau AstraZeneca a Pfizer yn amddiffyn yn effeithiol rhag Covid-19 ar ôl dau ddos.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi dweud fod mwy o gymysgu rhwng pobl yn debygol o fod wedi arwain at gynnydd yn yr amrywiolyn yng Nghymru.
Dywedodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i'r Coronafeirws yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydym wedi dweud yn flaenorol ein bod yn disgwyl i nifer yr achosion o amrywiolyn Delta yng Nghymru gynyddu, ond mae'n destun pryder serch hynny i weld y cynnydd hwn.
“Mae lledaeniad amrywiolyn Delta yng Nghymru yn ein hatgoffa na ddylem fod yn hunanfodlon, hyd yn oed wrth i gyfraddau Coronafeirws barhau'n isel ledled Cymru.
“Gallwch amddiffyn eich hun ac eraill drwy dderbyn y cynnig i gael brechlyn, cadw o leiaf dau fetr i ffwrdd oddi wrth bawb arall, golchi eich dwylo'n rheolaidd, a thrwy wisgo gorchudd wyneb lle bo angen. Cadwch fannau dan do wedi'u hawyru'n dda.
“Dylech hunanynysu a chael prawf os ydych chi neu unrhyw un arall yn eich aelwyd yn datblygu symptomau.”
Er y newyddion diweddaraf am yr amrywiolyn Delta, dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan ddydd Mawrth fod y nifer o achosion fesul 100,000 o bobl yn 9.3, a bod y nifer o gleifion yn yr ysbyty â Covid-19 ar ei lefel isaf ers cychwyn y pandemig.
"Mae'r llwyddiant yma o ganlyniad i waith caled pobl yng Nghymru i gadw eu hunain a'u teuluoedd yn ddiogel," dywedodd y Gweinidog.
"Dros y wythnosau diwethaf, rydym wedi gweld datblygiadau pryderus yn sgil yr amrywiolyn a gafodd ei ddarganfod yn gyntaf yn India.
"Mae hyn yn dystiolaeth bellach nad yw'r coronafeirws wedi mynd."