Newyddion S4C

Menyw a gollodd ei gŵr i ganser yn dweud bod gwirfoddoli wedi ei 'hachub'

11/10/2023
sandra.png

Mae menyw o Borthcawl a gollodd ei gŵr i ganser 10 mlynedd yn ôl yn dweud bod gwirfoddoli gydag elusen Guide Dogs wedi ei 'hachub'.

Fe gollodd Sandra Corben, 66, ei gŵr Neil ym Mehefin 2013 ar ôl iddo dderbyn diagnosis o Non-Hodgkin lymphoma.

Yn briod ers 1977, roedd y cwpl yn gwneud "popeth gyda'i gilydd" ond fe newidiodd eu bywyd pan y gwnaeth doctoriaid ddarganfod y canser ar ymennydd Neil. 

"Er fy mod i'n gwybod ei fod yn dod, does dim yn eich paratoi chi ar gyfer pan fydd rhywun yn marw," meddai Sandra. 

"Roedd bron fel pe bai fy nghorff i yn cau lawr, ac am tua blwyddyn, roeddwn i'n teimlo fy mod i'n byw yn fy swigen fy hun."

Wedi i Neil farw yn 2013, fe wnaeth Sandra wneud cais i elusen Guide Dogs i fagu cŵn bach, ac wrth edrych yn ôl, mae'n teimlo fod gwirfoddoli gyda'r elusen wedi ei "hachub."

Mae wedi magu saith ci hyd yma, ond yn fwyaf diweddar, fe wnaeth groesawu ei wythfed ci tywys adref, sef Corby, a gafodd ei enwi ar ôl ei gŵr. 

Mae Corby, yn ôl Sandra, yn "fywiog" a "chwareus" ac mae hi hyd yn oed wedi sylwi ar nodweddion sy'n debyg rhwng y ci a Neil. 

Image
Sandra a Corby
Sandra a Corby

Er bod yr holl gŵn yn arbennig iddi, dywedodd Sandra fod edrych ar ôl Corby "hyd yn oed yn fwy arbennig" ac mae eisoes wedi "gadael ei farc ar ei chalon."

Ychwanegodd Sandra: "Dwi wir yn credu fod gwirfoddoli gyda Guide Dogs wedi fy achub i dros y 10 mlynedd diwethaf a dyna pam dwi'n teimlo cystal."

Fe wnaeth Sandra a Neil gyfarfod pan yr oedden nhw'n 18 ac 19 oed gan eu bod nhw'n byw ar yr un ffordd. 

Fe briodon nhw yn eu hugeiniau cynnar ym 1977 cyn mynd ymlaen i sefydlu eu busnes printio. 

"Doedd gennym ni ddim plant, roedd gennym ni ein gilydd, ein cŵn, ac ein busnes, ac roeddem ni'n gwneud popeth gyda'n gilydd," meddai. 

Ym mis Rhagfyr 2004, fe wnaeth Neil ddarganfod lwmp yn ei goes, ac ar ôl profion, derbyniodd ddiagnosis o Non-Hodgkin lymphoma nad oedd modd ei drin.

'Byw ar gyfer y ddau ohonom'

Derbyniodd driniaeth cemotherapi yng Nghanolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd ac fe lwyddodd i aros a pharhau yn iach am bron i bum mlynedd. 

Ond ym mis Rhagfyr 2009, daeth o hyd i lwmp yn ei wddf ac ar ôl profion pellach, cafodd wybod fod ganddo diwmor ar yr ymennydd.

Cafodd driniaeth cemotherapi unwaith eto ond fe ddychwelodd y canser, a bu farw ym mis Mehefin 2013. 

"Roeddwn i'n gwybod nad oedd yn mynd i wella, ond fe wnaethom ni barhau i fyw fel pe bai am wneud hynny," meddai Sandra.

Ychwanegodd ei bod yn teimlo bellach ei bod hi'n "dechrau pennod newydd" yn ei bywyd a thrwy ei gwaith gyda Guide Dogs, mae'n gallu gweld ei hun yn symud ymlaen ac yn dychwelyd i'r ddynes oedd hi o'r blaen.

"Dwi'n dueddol o fyw fy mywyd ar gyfer y ddau ohonom ni, felly mae popeth dwi'n ei wneud ar gyfer y ddau ohonom - hyd yn oed magu'r cŵn bach gyda Guide Dogs," meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.