Newyddion S4C

Nam technegol ar rai o brif wefannau’r byd wedi methiant rhwydwaith

The Guardian 08/06/2021
rhyngrwyd

Roedd nam technegol yn golygu nad oedd modd cael mynediad i nifer fawr o wefannau ar y rhyngrwyd am gyfnod fore dydd Mawrth.

Roedd gwefan Llywodraeth y DU, Amazon, CNN, Le Monde, Financial Times, Bloomberg News a Reddit ymhlith rhai o’r gwefannau nad oedd modd cysylltu gyda nhw ar y pryd. 

Mae’r Guardian yn adrodd fod y methiant wedi deillio o broblem gyda rhwydwaith y gwefannau.

Roedd y neges “methu cysylltu” yn ymddangos wrth ymweld â nifer o'r gwefannau hyn. 

Y gred yw mai Fastly, sy’n darparu gwasanaethau cyfrifiadurol, oedd gwraidd y broblem. 

Maen nhw’n rhedeg gwasanaeth sy’n cyflymu’r broses o bori ar y we, a’u gwarchod rhag ymosodiadau i’r gwasanaeth a chyfnodau o draffig trwm. 

Darllenwch y stori’n llawn yma.  

Llun: Pixabay Geralt 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.