Pobl ifanc Cymru wedi eu 'taro galetaf gan yr argyfwng costau byw'
Mae elusen iechyd meddwl Mind Cymru yn galw ar bobl ifanc i ofyn am gymorth emosiynol.
Daw hyn wedi gwaith ymchwil sy'n dangos bod dros 33% o bobl ifanc rhwng 16 a 34 oed o'r farn bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu dros y flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd 84% bod yr argyfwng costau byw wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl hefyd.
Mae data a gafodd ei gasglu gan arolwg Censuswide yn awgrymu fod 20% o bobl ifanc yng Nghymru wedi defnyddio banc bwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd y symptomau ymysg pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yn cynnwys straen a phryder cynyddol, teimlo'n fwy isel a phrofi nosweithiau gwael o gwsg.
Cafodd y symptomau hyn eu nodi gan fwy o bobl ifanc na phobl hŷn a gymerodd ran yn yr ymchwil.
'Sefyllfa fregus'
Dywedodd Cyfarwyddwr Mind Cymru Sue O’Leary : "Mae ein hymchwil yn cynnig cipolwg trawiadol ar iechyd meddwl pobl ifanc yng Nghymru, a’r ffordd y mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar eu bywydau bob dydd. Rydym hefyd yn gwybod bod y genhedlaeth hon mewn sefyllfa fregus yn ariannol. Felly, yn erbyn cefndir o benawdau economaidd negyddol a chostau cynyddol, mae lefelau straen, pryder ac iselder yn bryder gwirioneddol.
"Iechyd meddwl plant ac oedolion iau yw un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu Cymru heddiw, ond mewn llawer o achosion, dydy’r unigolion hyn ddim yn gofyn - neu’n methu gofyn - am gymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl.
"Dyna pam, ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, ein bod ni’n ceisio sicrhau bod pobl ifanc yn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt i’w helpu gyda’u hiechyd meddwl. Mae Mind yma i’ch helpu chi, felly cysylltwch â ni."
Roedd anawsterau ariannol ymysg y problemau y mae pobl ifanc yn eu wynebu hefyd yn sgil yr argyfwng costau byw.
Roedd 40% o bobl ifanc oedd yn rhan o'r arolwg yn llai abl i fforddio cludiant personol a 32% yn llai abl i fforddio ffôn symudol.
Roedd 50% yn llai abl i allu fforddio cymdeithasu gyda ffrindiau a theulu.