Arestio tri dyn yn dilyn 'anhrefn treisgar' honedig yng nghanol Caerffili
08/10/2023
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn anhrefn yng nghanol Caerffili yn gynnar fore dydd Sul.
Derbyniodd swyddogion adroddiadau o anhrefn ger bwyty'r Charcoal Grill am tua 02:00.
Cafodd tri dyn - dyn 27 oed, 31 oed a 34 oed eu harestio ar amheuaeth o anhrefn treisgar.
Mae'r tri yn parhau yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Cafodd dynes 30 oed ei chludo i'r ysbyty am driniaeth.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth, lluniau teledu cylch cyfyng neu gamera dashcam, i gysylltu gan ddefnyddio rhif cofnod 2300341189, gyda'r manylion.
Llun: Google