
‘Dim stop’ i’r cynnydd mewn defnydd cetamin ymhlith pobl ifanc

‘Dim stop’ i’r cynnydd mewn defnydd cetamin ymhlith pobl ifanc
“Does dim dwywaith y byddwn i’n gwisgo bag colostomi oni bai mod i wedi mynd am driniaeth”.
Dyma’r dyfodol roedd Tom Morgan, 33 oed, o Dredegar yn ei ofni. Mae e’n ddibynnol ar cetamin, ac eisiau codi ymwybyddiaeth o effeithiau dinistriol y cyffur Dosbarth B ar y corff.
Yn ôl rhai elusennau, mae cetamin wedi dod yn fwy poblogaidd yn ddiweddar, yn enwedig ymhlith pobl ifanc.
Mae'n gyffur sy’n rhatach i'w brynu o'i gymharu â chyffuriau eraill, ac yn rhoi’r effaith o ymgolli ac anghofio.
Ond mae'n hawdd mynd yn gaeth iddo ac, mewn rhai achosion, mae defnyddwyr yn colli rheolaeth ar eu pledren. Gall hefyd effeithio ar rannau eraill o’r corff, fel y trwyn.
Mae Tom yn un sydd wedi gorfod mynd i’r ysbyty sawl gwaith oherwydd y poen sydd wedi cael ei achosi gan ddefnydd tymor-hir o cetamin.
“Maen nhw’n eu galw’n ‘K cramps’. Maen'n boen ofnadwy y tu mewn ichi, oherwydd faint o’r grisial sy’n casglu yn eich corff mewn mannau penodol.
“Poen dwys yn y stumog a’r goden fustl (gall-bladder), a dyna pryd wnes i sylweddoli ei fod e’n beryglus.
“Y ffaith yw, petawn i heb ddod yma, byddai unai gen i fag colostomi neu drwyn wedi’i ddymchwel.”
'Niwed ofnadwy'
Fe wnaeth Barod, elusen sy’n cefnogi pobl sy’n cael eu heffeithio gan alcohol a chyffuriau, ddweud eu bod wedi gweld cynnydd diweddar o 60% yn y nifer sy'n defnyddio cetamin. Erbyn hyn, mae'n fwy poblogaidd ymysg pobl ifanc nag MDMA ac ecstasy.
“Mae cetamin nawr yn cael ei weld fel y cyffur deniadol yma i’w gymryd, ond mae jyst yn beryglus a dydw i ddim yn gallu gweld stop iddo,” meddai Tom.
Mae’r Ganolfan Adferiad Breifat ym Mae Colwyn, Parkland Place yn derbyn ymholiadau am cetamin yn benodol yn wythnosol, ac mae’r staff yno hefyd yn poeni am y cynnydd yn y galwadau hynny.

Dywedodd rheolwr gwasanaeth Parkland Place, Jocelyn Williams: “Ro’n ni efo dynes oedd yma, ac roedd yn rhaid iddi self-cathetirisio, roedd hi methu mynd hirach na 20 munud heb fynd i’r toiled, a heb gael llawdriniaeth, dyna fyddai ei bywyd hi, ac roedd hi’n 27.”
Yn ôl pennaeth Parkland Place Cheryl Williams: “Dydw i jyst ddim yn meddwl bod pobol yn sylweddoli, os wyt ti’n cymryd y cyffur yma fel eich cyffur arferol, ar ddiwedd y dydd rwyt ti’n mynd i achosi niwed ofnadwy i dy bledren.
“Dyna beth sy’n mynd i ddigwydd mewn rhai blynyddoedd, oherwydd ry’n ni’n gweld y to iau yn dod mewn, ry’n ni’n mynd i gael rhestrau aros mewn adrannau wroleg.
“Mae’n mynd i fod yn broblem wrolegol, lleddfu poen, oherwydd ar ddiwedd y dydd, does dim dadwneud y niwed maen nhw’n ei wneud.”
'K-hole'
Mae Mared Jones o Benisarwaun, sy’n 26 oed, hefyd wedi cael profiad gwael ar ôl camddefnyddio cetamin.
“Wnaeth o effeithio arna’i mor ddrwg, ro’n i’n hallucinatio, methu symud. Ro’n i’n teimlo fel ‘mod i’n sownd yn fy nghorff fy hun, roedd o’n brofiad ofnadwy.
“Cyhyrau ddim yn gweithio, meddwl ddim yn gweithio, ro’n i’n gweld pethau, ro’n i’n crïo, maen nhw’n ddisgrifio fo fatha ‘K-hole’. So, mae o fatha trip drwg, ry’ch chi’n spirallio, ry’ch chi methu cael rheolaeth dros eich corff chi’ch hun.”
Yn ôl Mared, yr unig ffordd allodd hi ddod allan o hyn, oedd cymryd cyffur arall: cocên.
Fe wnaeth Mared ddechrau camddefnyddio cyffuriau chwe blynedd yn ôl pan oedd hi allan yn yfed gyda ffrindiau. Roedd hi wedi symud i ardal newydd gyda’i chariad ar y pryd; ond doedd y berthynas ddim yn un hapus.
“Roedd hi’n un noson mewn tafarn ac fe waethon nhw ofyn i fi, ‘deutha fi, wyt ti eisiau trïo bach o hwn? Jyst coke ydy o, mae’n fine, wneith o ddim lladd chdi.’

“So fe wnes i drïo fo, ‘mae hwn yn rhoi bach o buzz i fi, dwim yn teimlo sut oedd yr hogyn yn gwneud fi deimlo.’ So, ro’n i eisiau i’r teimlad yna barhau.”
Wrth i’r profiad cyntaf gyda’r cyffur wneud iddi anghofio am y pethau oedd yn ei phoeni, roedd ganddi chwant i barhau i’w ddefnyddio.
“Dros chwe blynedd o addiction, ro’n i mewn denial," meddai.
"Ro’n i’n meddwl ‘mod i’n gallu delio â’r cyffuriau, fod o jyst yn rhan o ‘mywyd i, ond y gwir oedd, roedd o’n cymryd hollol control o ‘mywyd i.
“Ro’n i wedi colli dros £30,000 ar y cyffur, rhwng payday loans a bob dim achos ro’n i mor desperate am bres."
'Eisiau gwella'
Mae yna alw ar ganolfannau fel Parkland Place i helpu pobl fel Mared a Tom.
Bob blwyddyn ma nhw’n trin dros gant o bobl, ac yn derbyn tua deg ymholiad bob dydd.
Fodd bynnag, fel triniaeth breifat, dydy’r gofal yn Parkland Place ddim yn rhad ac yn costio tua £10,000 am gyfnod o bedair wythnos yno.
Yn ôl Jocelyn: "Weithiau, mae pobol yn defnyddio cerdyn credyd, ychydig bach off mam, ychydig bach off dad, pwy bynnag sy’n gallu helpu.
“Mae hynny’n anodd i ni fel staff achos mae yna ddisgwyliad bod o am weithio - ond os dydi’r person ddim efo diddordeb, neith o ddim gweithio.”
Un oedd yn barod i wella oedd Mared. Mae ei theulu a ffrindiau wedi rhoi arian i’w helpu i dalu am y driniaeth breifat yn Parkland Place.
"’Wnes i dalu i ddod yma, achos ro’n i eisiau gwella rwan, ddim pan fod hi’n rhy hwyr.
“Mae mam a dad wedi rhoi pres i mewn, nain, teulu arall, a dwi wedi rhoi pres fy hun i mewn, ac un diwrnod pan dwi mewn lle gwell, byswn i’n licio rhoi’r pres yn ôl i ddweud diolch".
"Mae mam wedi dweud byddai’n well ganddi hi gael ychydig bach llai o bres yn y banc na dim merch o gwbl".
Wrth aros i orffen ei thriniaeth yn Parkland Place, mae Mared a Tom yn cydnabod bod yna heriau fydd yn eu hwynebu.
“Dwi wedi gaddo i’r teulu sawl gwaith gwna’i wella… Dydy gaddo ddim yn opsiwn, ond mae profi yn opsiwn. Dyna be dwi eisiau’i wneud: profi bod fi’n gallu, achos gai ddim siawns arall fel ‘ma,” meddai Mared.
Yn ôl Tom: “byddaf i wastad yn gaeth, ond mae’n golygu gwneud y pethau cywir o ddydd i ddydd… a defnyddio’r dulliau dwi wedi’u dysgu o Parkland Place ac wrth y bobl yno.”
Gwyliwch Y Byd ar Bedwar, Nos Lun am 20:00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.