Cyngor Gwynedd yn 'ymddiheuro'n ddiffuant' am broblemau casglu gwastraff ailgylchu
Mae Cyngor Gwynedd wedi "ymddiheuro’n ddiffuant" am "drafferthion" gyda chasgliadau gwastraff ailgylchu diweddar yn y sir.
Mae’r cyngor yn dweud fod oedi wedi bod mewn casgliadau mewn rhai ardaloedd a hynny oherwydd bod sawl aelod o staff ar gyfnod o weithredu diwydiannol.
Dywedodd hefyd fod cyfnod o salwch ymhlith gweithwyr wedi effeithio ar allu’r gwasanaeth i i gwblhau casgliadau ym mhob lleoliad.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd: “Fel Cyngor, rydym yn awyddus i gydweithio efo’n trigolion i sicrhau ein bod yn parhau i wella lefelau ailgylchu sirol.
“Mae gwaith yn digwydd i foderneiddio trefniadau’r gwasanaeth ond mae’n anorfod fod newid sylweddol o’r fath yn cymryd amser.
“Er hyn, rydym yn ymwybodol fod rhai trafferthion gyda chasgliadau mewn rhai ardaloedd ar adegau. Rwy’n deall fod hynny’n gallu bod yn rhwystredig ond mae pob ymdrech yn cael ei wneud i gyfathrebu unrhyw oedi trwy gyfrifon cymdeithasol y Cyngor.
“Yn benodol yn ddiweddar, mae gweithredu diwydiannol gan undeb Unite wedi cael effaith ar gasgliadau mewn rhai rhannau o’r sir ac mae pob ymdrech yn cael ei wneud gan y gweithlu i ddal i fyny gyda’r gwaith ers hynny."
Ychwanegodd: “I gymhlethu’r sefyllfa, mae yna nifer o aelodau’r gweithlu wedi bod i ffwrdd oherwydd salwch yn yr wythnosau diwethaf, ac mae hynny wedi cael effaith ar allu’r gwasanaeth i gwblhau casgliadau mewn rhai ardaloedd.
“Ymddiheurwn yn ddiffuant am y problemau a’r effaith mae hynny wedi ei gael. Er y problemau diweddar, rydym yn hyderus fod pethau yn gwella ac mi fyddwn yn eich annog i wneud y mwyaf o’r casgliadau i waredu eitemau i’w hailgylchu, gwastraff bwyd, gardd ac ati.”