Cau ysgol yng Ngwynedd wedi achos positif o Covid-19

Mae ysgol gynradd yng Ngwynedd ar gau ar ôl i aelod o staff brofi’n bositif am Covid-19.
Yn ôl gwefan North Wales Live, mae mwy na 50 o ddisgyblion a staff Ysgol Santes Helen yng Nghaernarfon yn hunan-ynysu, yn dilyn achos positif o’r feirws.
Cafodd yr achos ei gadarnhau dros wyliau'r hanner tymor.
Mae disgwyl i’r ysgol ail-agor ddydd Gwener, 11 Mehefin os bydd y sefyllfa yn caniatáu.
Daeth cadarnhad gan Gyngor Gwynedd fod yr ysgol ar gau, gyda’r awdurdod yn annog y rhai sy’n gysylltiedig â’r achos i ddilyn cyngor swyddogol er mwyn atal y feirws rhag lledaenu.
Darllenwch y stori’n llawn yma.