'Ma’ fe moyn dangos bod e’n hapus': Bachgen yn byw gyda thiwmor ar yr ymennydd
'Ma’ fe moyn dangos bod e’n hapus': Bachgen yn byw gyda thiwmor ar yr ymennydd
Mae Llyr yn 13 mlwydd oed ac yn byw gyda thiwmor ar yr ymennydd.
Pan aeth Llyr at yr optegydd i gael prawf llygaid arferol ym mis Awst ddwy flynedd yn ôl nid oedd ef na’r teulu yn disgwyl beth fyddai'n digwydd nesaf.
“Bombshell” oedd y newyddion medd ei fam Joyce.
Cafodd Llyr ddiagnosis bod ganddo diwmor ar yr ymennydd ddeufis cyn dechrau yn yr ysgol uwchradd y flwyddyn honno.
Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd ei fam bod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn “anodd” ond maen nhw’n bennaf yn ddiolchgar bod Llyr “dal ‘ma.”
“Aethon ni mewn i gael eye test, un naturiol chimod, a pigodd y specialist lan bod problem gyda’r llygaid," meddai.
“Aethon ni i special clinic yn Glangwili ac o fy'ny ymlaen gathe ei diagnoso gyda brain tumour a wedyn yr un nosweth gethon ni wybod bod hydrocephalus gyda fe."
Mae hydrocephalus yn gyflwr lle mae hylif yn cronni ar yr ymennydd.
“Fe gath e’r pythefnos gynta yn yr ysgol ond wedyn'i fe ath e ddim nôl i’r ysgol tan Chwefror," esboniodd Joyce.
“Daeth y diagnosis ar y dydd Iau, mewn i Gaerdydd nos Iau, op gynta ar y dydd Llun, nôl mas ar y dydd Mawrth, ac aeth fis wedyn cyn cal yr operation o debulckio.
Fe gafodd Llyr llawdriniaeth i drin yr hydrocephalus yn gyntaf ac yna fis yn ddiweddarach fe gafodd yr ail lawdriniaeth i dynnu peth o’r tiwmor.
Derbyniodd 18 mis o driniaeth cemotherapi hefyd.
Dywedodd Joyce: “I fod yn honest gethon ni ddim lot o amser i feddwl am bethe.
“Peth gwael a peth da mewn un ffordd.”
Caled
Mae tiwmor Llyr wedi’i leoli ar y cellerbelum – rhan o'r ymennydd sy’n rheoli symudiad gweddill y corff.
Tra’n derbyn y llawdriniaeth i echdynnu peth o’r tiwmor, dywedodd y doctoriaid bod siawns y byddai Llyr yn colli hanner defnydd ei gorff, medd Joyce.
Ond datblygodd Llyr barlys y wyneb neu facial palsy, sef colli'r gallu i symud ei wyneb.
Nid yw’r doctoriaid yn gwybod os taw’r tiwmor neu’r driniaeth ag achosodd y parlys, meddai hi.
“Fe gethon ni weud galle fe wedi colli hanner use o’i gorff a bydde fe’n dod nôl ond be sy' wedi digwydd gyda Llyr mae ‘di cael facial palsy," meddai.
“Yn anffodus dyw’r gwyneb ddim yn mynd i ddod nôl o gwbl.
“Dy'n nhw ddim wedi gallu gweud os taw’r triniaeth neu mynd am y biopsi sy wedi achosi’r facial palsy.
“Ma’ fe’n ffeindio fe’n galed ar hyn o bryd. Ma’ fe moyn dangos bod e’n hapus chimod.
“Ond ma’ rhaid ni weud, ni’n diolchgar, ma fe ma. Ni 'ma, ma' fe gyda ni."
Aros
Yn ôl yr elsuen BrainsTrust mae mwy na 80,000 o bobl yn byw gyda thiwmor ar yr ymennydd.
Tiwmor yr ymennydd yw’r cancr mwyaf cyffredin ymysg pobl o dan 40 oed, medd yr elusen.
Er nad yw Llyr ar unrhyw feddyginaeth ar hyn o bryd, yr aros am y cam nesaf yw’r peth anoddaf, medd Joyce.
“Ma’ ‘di bod yn anodd trwyddo fe ond yr adeg anodd nawr yw gorfod aros am y chwe mis ‘ma am canlyniadau yr MRI sgan," meddai.
“Tra bod ni’n cal y triniaeth oeddach chi’n gwybod odd pethau yn cael eu hedrych ar ôl chimod yndyfe.
“Odd pethe yn planned i chi, o’ch chi’n gwybod beth odd o flaen.
“Ma plans i gael ond ni jyst gorfod aros nawr i’r sgan nesaf a ma’ fe’n hollol dependio ar y results."
Diolchgar
Trwy gydol y cyfnod o salwch, mae Llyr, Joyce a’r teulu wedi cael cefnogaeth gan yr elusen LATCH.
“Mae’n anyhygeol beth ma LATCH wedi neud i helpu ni,” meddai hi.
“’So chi’n gwybod amdanyn nhw nes bod chi yn y sefyllfa.
“Mae’r gefnogaeth chi’n cael yn gant a gant a sai’n credu bod pobl yn deall o gwbl.
“Os i chi ddim yn y situation ‘ma, so chi’n deall faint o elusennau a chefnogaeth sydd mas yna."
Eleni mae’r elusen yn dathlu 40 mlynedd o gefnogi plant a theuluoedd wrth iddynt ddelio gyda diagnosis a thriniaeth canser.
Dywedodd Menai Owen-Jones, Prif Weithredwr LATCH: “Mae LATCH yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i ddarparu cymorth i blant a theuluoedd sydd dan ofal yr Uned Oncoleg Pediatrig.
“Heddiw, mae’r elusen yn helpu 120 o deuluoedd ar gyfartaledd ar unrhyw un adeg.
“Dros y 40 mlynedd diwethaf rydym wedi cefnogi miloedd o deuluoedd yng Nghymru drwy eu dyddiau anoddaf.
“Wrth i ni nodi’r 40 mlynedd diwethaf, rydym yn edrych ymlaen at sut y gallwn barhau i ddatblygu’r cymorth a gynigiwn i deuluoedd a helpu i wella canlyniadau i blant sy’n cael diagnosis o ganser.”