AS yn galw am adolygu trefniadau Covid-19 ar drafnidiaeth gyhoeddus
Mae'r Aelod Seneddol dros Arfon, Hywel Williams, wedi galw am newid i drefniadau diogelwch Covid-19 ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.
Mae'r AS Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru i adolygu'r mesurau sydd eisoes mewn lle yn sgil pryderon am ddiffyg mesurau diogelwch Covid-19 ar rai gwasanaethau trên.
Mae Mr Williams yn codi cwestiynau'n benodol am wasanaethau trenau Trafnidiaeth Cymru o Crewe i Fangor.
Yn ôl Trafnidiaeth Cymru, diogelwch teithwyr yw eu prif flaenoriaeth.
Dywedodd Mr Williams ei fod wedi derbyn rhai adroddiadau gan etholwyr nad oedd modd pellhau'n gymdeithasol, er i bolisi Trafnidiaeth Cymru ddatgan y dylid cyfyngu ar nifer y teithwyr er mwyn galluogi hyn i ddigwydd.
Dywedodd Hywel Williams, AS: "Rwy'n hynod bryderus o glywed adroddiadau gan etholwyr am y diffyg mesurau diogelwch Covid ar wasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru sy’n gweithredu ar hyd prif reilffordd gogledd Cymru ac yn benodol, gwasanaethau o Crewe i Fangor yn fy etholaeth".
"Rwy’n annog Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru i adolygu eu protocolau diogelwch Covid ar frys, fel y gall teithwyr deithio’n ddiogel yn unol â rheoliadau teithio'r llywodraeth", ychwanegodd.
'Diogelwch yn brif flaenoriaeth'
Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynaliadwyedd TrC: “Diogelwch ein cwsmeriaid a’n cyd-weithwyr yw ein prif flaenoriaeth. Rydyn ni’n parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ac yn dilyn y canllawiau diweddaraf.
“Weithiau, er enghraifft pan fydd y tywydd yn braf, mae rhai gwasanaethau arfordirol yn brysurach ac rydyn ni’n monitro ein capasiti’n barhaus, ac yn trefnu gwasanaethau ychwanegol a chludiant ar y ffyrdd lle bo hynny’n bosib.
“Mae systemau ciwio ar waith mewn gorsafoedd prysur i ddiogelu cwsmeriaid a’n staff, ac i’w gwneud yn bosib cadw pellter cymdeithasol, ac rydyn ni’n hyrwyddo ein hadnodd Gwiriwr Capasiti er mwyn i gwsmeriaid allu cynllunio ymlaen llaw, nid yn unig ar gyfer eu taith gychwynnol ond y daith bwysig adref hefyd.
“Rydyn ni’n falch o gyflwyno gwasanaeth newydd rhwng Caergybi a Chaerdydd heddiw, a hynny ar drenau gwell a mwy o faint. Rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi y byddwn yn ychwanegu 20 o’r cerbydau hyn at ein llwybr Intercity rhwng Abertawe a Manceinion flwyddyn nesaf.
“Hoffem ddiolch i gwsmeriaid am eu dealltwriaeth yn ystod y cyfnod heriol hwn a byddwn yn parhau i drawsnewid trafnidiaeth ar draws ein rhwydwaith".
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru am ymateb.