Disgwyl brechiad Covid-19 i bawb dros 18 oed erbyn canol Mehefin
Disgwyl brechiad Covid-19 i bawb dros 18 oed erbyn canol Mehefin
Mae disgwyl y bydd pawb dros 18 oed wedi derbyn o leiaf un dos o'r brechlyn rhag Covid-19 erbyn canol mis Mehefin.
Mae hyn fis a hanner ynghynt na'r targed gwreiddiol o frechu pawb sy'n gymwys dros 18 oed erbyn diwedd mis Gorffennaf.
Erbyn dydd Llun nesaf, mae disgwyl y bydd pawb dros 18 oed wedi derbyn gwahoddiad am frechiad.
Daw'r diweddariad gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford, wrth i Lywodraeth Cymru ddiweddaru ei strategaeth frechu am y trydydd tro ers ei lansio ym mis Ionawr.
Dywedodd Mark Drakeford fod amrywiolyn Delta yn dangos pwysigrwydd cael dau ddos o'r brechiad i'w hamddiffyn yn llawn rhag Covid-19.
Mae'r llywodraeth hefyd yn disgwyl gallu darparu ail frechiad erbyn diwedd mis Medi i bawb sydd eisoes wedi derbyn dos cyntaf.
Mae'r llywodraeth hefyd yn aros am gyngor ar gamau posib nesaf y rhaglen frechu, gan gynnwys brechu plant a dosbarthu brechiadau ychwanegol i'r rhai sydd eisoes wedi derbyn dau ddos o'r brechlyn.
Amrywiolyn Delta
Dywedodd Mr Drakeford fod amrywiolyn Delta yn golygu y bydd Cymru'n symud i lefel rhybudd 1 yn raddol.
Mae'r newid graddol i'r cyfyngiadau yn rhoi'r cyfle i'r llywodraeth gadw llygad ar y sefyllfa yng Nghymru ac yng ngweddill y Deyrnas Unedig, dywedodd Mr Drakeford.
Yn ôl y Prif Weinidog, mae 97 achos o amrywiolyn Delta bellach wedi eu cadarnhau yng Nghymru.
Dywedodd fod y dystiolaeth yn dangos fod amrywiolyn Delta yn trosglwyddo 40%-60% yn haws nag amrywiolyn Alffa a gafodd ei adnabod yn wreiddiol yng Nghaint.
Ychwanegodd fod angen mwy o dystiolaeth ar ba mor effeithiol mae'r brechlynnau wrth dorri'r cysylltiad rhwng achosion o amrywiolyn Delta a salwch difrifol.
Mae Llywodraeth Cymru yn cadw llygad ar y sefyllfa yn Sir Conwy yn benodol, gyda Mr Drakeford yn annog pobl yn ardaloedd Bae Penrhyn, Cyffordd Llandudno a Llandudno i gymryd prawf.
Erbyn hyn, mae 54 achos o Covid-19 wedi eu cadarnhau neu wedi eu rhagdybio yn yr ardal.
Roedd Mr Drakeford hefyd yn pwysleisio nad yw hi'n rhy hwyr i gael brechiad rhag Covid-19 i bobl sydd heb gael un hyd yma.