Lansio cronfa £3m newydd i roi seibiant i ofalwyr di-dâl
Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi bod cronfa newydd gwerth £3m wedi ei sefydlu er mwyn galluogi i ofalwyr di-dâl “gael seibiant neu egwyl fer”.
Yn siarad yn ystod Wythnos y Gofalwyr, dywedodd Julie Morgan y bydd y gwasanaethau seibiant sydd ar gael yn cael eu “hymestyn” a’u “hansawdd yn gwella” diolch i’r gronfa newydd.
Dywedodd Ms Morgan: “Gall yr effaith y mae gofalu yn ei chael, yn gorfforol ac yn emosiynol, fod yn ddigon i lethu rhywun. Mae gofalwyr di-dâl ym mhob cwr o Gymru yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymdeithas, ac maen nhw wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn ystod y pandemig. Maen nhw’n aml wedi ysgwyddo rhagor o gyfrifoldebau, gan gymryd llai o egwyl hefyd.
“Gall gwasanaethau seibiant gynnig achubiaeth a bydd y gronfa newydd hon yn sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn gallu cael egwyl fer o’u cyfrifoldebau gofalu.
"Nid yw gofalwyr di-dâl yn cael y gydnabyddiaeth y maen nhw’n ei haeddu gan gymdeithas ac mae’n hanfodol ein bod ni’n eu helpu nhw i ofalu am eu hiechyd a’u llesiant eu hunain.”
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae gan tua 12% o bobl yn y wlad gyfrifoldebau gofalu, gyda llawer iawn yn ysgwyddo’r cyfrifoldebau heb dderbyn unrhyw gymorth.
Gwnaeth y llywodraeth gynnal ymgynghoriad ar y strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl, gyda’r rhai a ymatebodd yn dweud bod eu lefelau straen a gorbryder wedi cynyddu gan nad oedd gwasanaethau seibiant ar gael pan oedd y pandemig yn ei anterth.
Nid oedd rhai yn gallu mynd allan am y diwrnod na gadael eu cartrefi am ychydig oriau, meddai’r llywodraeth.
Mae’r ariannu pellach yn cael ei groesawu.
Dywedodd Simon Hatch, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth y Gofalwyr Cymru: “Rydyn ni’n croesawu’r cyllid hwn yn fawr, yn arbennig o ystyried yr effaith sylweddol y mae’r pandemig wedi’i chael ar filoedd o ofalwyr di-dâl.
“Mae gofalwyr wedi bod yn dweud ers blynyddoedd lawer fod angen gwella’r cymorth gofal seibiant a ddarperir, a hyblygrwydd y cymorth hwnnw, yn sylweddol. Mae hwn yn ddechrau pwysig i ddatblygu’r cymorth seibiant y mae gofalwyr yng Nghymru yn ei haeddu.”