Newyddion S4C

Beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Conwy

06/06/2021
A548

Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng Llanfair Talhaiarn a Llangernyw yn Sir Conwy ddydd Sul.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad, oedd yn cynnwys beic modur a fan Ford transit wen, ar yr A548 ychydig wedi 14.00.

Bu farw'r dyn 59 oed wedi'r digwyddiad.

Dywedodd Sgt Raymond Williams o Uned Plismona'r Ffyrdd, Heddlu Gogledd Cymru: "Rwy’n rhoi fy nghydymdeimlad dwys â theulu a ffrindiau’r beiciwr ar yr adeg anodd hon.

"Rwy’n apelio ar unrhyw un a oedd yn teithio ar y ffordd bryd hynny rhwng Llanrwst a Llanfair Talhaiarn a welodd y gwrthdrawiad neu a allai fod â lluniau dashcam sy’n dangos y cerbydau cyn y gwrthdrawiad. Byddwn hefyd yn croesawu unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar y ffordd hwnnw sydd â dashcam i gysylltu â ni. Os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â ni trwy sgwrs gwe neu trwy ffonio 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 21000395813."

Mae'r ffordd bellach wedi ail-agor.

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.