‘Argyfwng ynni'r gaeaf’: ASau yn galw am becyn cymorth ar gyfer aelwydydd ‘mwyaf bregus’
Mae ASau wedi galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi aelwydydd sy’ dan bwysau, a hynny yn sgil disgwyliadau am argyfwng ynni “anochel” y gaeaf hwn.
Fe ddaw gan bwyllgor ynni a sero net a fu’n galw ar y llywodraeth i sicrhau bod teuluoedd yn cael eu cefnogi’n ariannol.
Y llynedd fe gafodd sawl un aelwyd budd-dal o £400 fel rhan o ymdrech i ddarparu cymorth yn sgil costau ynni, ond mae ASau bellach yn galw am yr un cymorth i gael ei ddarparu unwaith eto eleni.
Ychwanegodd y dylai’r disgownt sy’n lleihau costau ynni gan £150 yn ystod misoedd y gaeaf gael ei ymestyn i gefnogi aelwydydd yn ystod yr wythnosau cyn cyfnod oeraf y flwyddyn.
Dywedodd Angus Brendan MacNeil, sef cadeirydd y pwyllgor Energy Security and Net Zero ei fod yn pryderu dros yr heriau mae’r unigolion mwyaf bregus am wynebu’r gaeaf hon.
“Bydd nifer o bobl fwyaf bregus y DU yn cael eu hatgoffa o’r aberth didostur yr oedd rhaid iddynt ‘neud y llynedd,” meddai.
“Mae un o bob pedwar yn parhau i ddioddef gyda dyledion y gaeaf diwethaf.
“Mae’r heriau rydym yn wynebu'r gaeaf hwn yn bygwth i fod yn waeth byth, a ddylai’r llywodraeth cyhoeddi ei fwriad i gefnogi pobl ar unwaith.”
‘Talu mwy’
Er bod prisiau ynni wedi gostwng ar farchnad y cyfanwerth eleni, bydd rhan fwyaf o deuluoedd yn parhau i dalu biliau ar yr un gost â llynedd, meddai’r ASau.
Esboniodd bod hyn yn rhannol o ganlyniad i’r cynnydd i dâl sefydlog ar gyfer nwy a thrydan.
Er bod cost pob uned wedi gostwng, mi fydd aelwydydd sy’n defnyddio cyfanswm llai o nwy a thrydan na’r cyfartaledd yn parhau i gael biliau uwch gan eu bod yn talu’r un tâl sefydlog â phawb arall.
Mae’r ASau bellach wedi galw ar y llywodraeth i ddileu tâl sefydlog, gan ddweud y dylai pobl dalu am yr hyn maen nhw’n defnyddio.
Dywedodd llefarydd ar ran adran Energy Security and Net Zero: “Fe fydd y Warant Pris Ynni yn parhau i gefnogi pobl hyd at fis Ebrill nesaf – a hynny’n rhan o becyn gymorth gwerth bron i £40 biliwn.
“Y gaeaf hwn, mae cymorth ychwanegol ar gael i’r rheiny sydd eu hangen y fwyaf gydag ein disgownt ‘Cartrefi Cynnes’. Bydd disgwyl i 3 miliwn o aelwydydd mwyaf bregus y DU buddio fel rhan o’r cynllun yma.
“Ac rydym bellach wedi lansio ein cynllun insiwleiddio gwerth £1 biliwn er mwyn helpu dros 300,000 o deuluoedd gyda’u biliau ynni a’r gost o gynhesi eu tai.”