Newyddion S4C

‘Ddim yn diwedd y lein’ i reilffordd gorsaf niwclear Trawsfynydd

23/09/2023
Rheilffordd Blaenau Ffestiniog

Mae trigolion yn ardal Blaenau Ffestiniog yn galw am eglurhad ynglŷn â dyfodol rheilffordd fu’n cludo gwastraff niwclear o atomfa Trawsfynydd.

Dyw’r rheilffordd rhwng Blaenau Ffestiniog a Thrawsfynydd heb fod mewn defnydd ers yr 1990au ond wedi ei chadw mewn un darn rhag ofn bod ei hangen. 

Mae ymgyrchwyr yn dweud eu bod nhw wedi eu cadw “yn y niwl” ynglŷn â’i dyfodol ac yn galw am gael cymryd cyfrifoldeb drosti ar gyfer gweithgareddau hamdden.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Ceri Cunnington, sef gweithiwr datblygu Cwmni Bro Ffestiniog y gallai gael ei throi yn llwybr beicio a cherdded.

“Yn Blaenau, mae’n ardal fynyddig does 'na’m ffyrdd fflat neu ddiogel i allu fynd ar beic neu cerdded – ‘dych chi’n mynd i fyny mynydd neu lawr allt,” meddai.

“Mi fase datblygu’r rheilffordd ‘ma fel adnodd cymunedol ar gyfer hamddennau yn trawsnewid bywydau pobl a dydy hyn ddim yn ‘deud ar chwarae bach. 

“’Dyn ni wedi, ers degawdau, ymdrechu i ddatblygu’r llinell, neu jyst ffeindio allan be’ sy’n digwydd efo’r llinell. 

“Mae’r awdurdodau wedi bod yn amwys iawn, ‘ella bydd y llinell yn cael ei ddefnyddio i gludo gwast niwclear – pwy a ŵyr. 

“Fel cymuned ddylen ni ddod ynghyd a gofyn am atebion,” meddai.

‘Atebion’ 

Roedd gobaith yn lleol byddai’r awdurdod sy’n berchen â’r orsaf ar ben draw'r rheilffordd, sef y corff llywodraethol Nuclear Decommissioning Authority (NDA) yn ei roi yn nwylo’r gymuned.

Ond wrth siarad â Newyddion S4C maen nhw bellach wedi cadarnhau “nad oes unrhyw benderfyniadau wedi’i wneud hyd yma.” 

Dywedodd llefarydd ar ran yr NDA: “Bydd yr holl lwybrau i gludo gwastraff o safle Trawsfynydd yn cael eu hasesu. 

“Fe fydd y gwaith asesu yn rhoi gwybod i ni ynglŷn â photensial posib ei ddefnyddio yn y dyfodol,” meddai.

Network Rail sydd biau'r rheilffordd ei hun, medden nhw. Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Network Rail am ymateb.

‘Niwl’

Dywedodd Mr Cunnington bod y diffyg trafod a’r gymuned leol wedi achosi dryswch a rhwystredigaeth. 

“Mae o gyd yn smoke and mirrors beth sy’n actually digwydd gyda’r rheilffordd,” meddai.

“’Dyn ni ‘di ‘neud cynlluniau datblygu ar hyd y blynyddoedd. ‘Dyn ni ‘di gwario miloedd a dweud y gwir ar astudiaethau i drio datblygu’r lein." 

Fel rhan o'r gwaith cynllunio, fe gafodd peiriannau 'velorail' eu cyflwyno ar y rheilffordd am gyfnod, a rheiny'n drenau pedalu bychan mae unigolion yn gallu eu gyrru.

Ychwanegodd Mr Cunnington: “Does ‘na ddim gwybodaeth swyddogol yn dod.

"‘Da ni yn y niwl yn gyson efo’r rheilffordd ‘ma."

Dywedodd llefarydd ar ran yr NDA y bydden nhw’n parhau i “ymgysylltu gyda’r gymuned leol” yn ystod y broses o ddadgomisiynu’r atomfa. 

Mai disgwyl i ymgynghoriad ffurfiol cael ei gynnal ym mis Tachwedd ynglŷn ag atomfa Trawsfynydd, ond nid yw hynny i’w wneud yn benodol a’r rheilffordd, ychwanegodd. 

Mae yna hefyd gynlluniau gan Gwmni Egino, sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru, i osod adweithydd niwclear bychan ar y safle.

Llun: Railbike UK.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.