Ardaloedd harddwch Eryri wedi eu 'difetha' gan don o wersyllwyr

Mae ymwelwyr sy'n gwersylla ar dir heb ganiatâd yn difetha rhai o fannau harddwch mwyaf eiconig Cymru, yn ôl yr awdurdodau.
Mae gwersyllwyr wedi cael eu cyhuddo o adael sbwriel ac ysgarthu ar ochrau ffyrdd ym Mharc Cenedlaethol Eryri, gyda diwedd y cyfnod clo wedi gweld cynnydd mawr mewn gwersylla anghyfreithlon neu wersylla ar dir heb ganiatâd y perchennog.
Mae cynghorydd cymunedol Capel Curig, Shan Ashton, wedi galw ar yr awdurdodau i weithredu ac i osod seilwaith i ymdopi â'r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr, meddai The National.
Dywedodd llefarydd ar ran Parc Cenedlaethol Eryri: “Ar ôl llacio cyfyngiadau'r llynedd, gwelsom gynnydd mawr mewn cerbydau fel campervans, motorhomes, faniau a cheir yn parcio dros nos mewn ardaloedd heb eu dynodi fel meysydd parcio a laybys"
“Arweiniodd hyn at faterion eraill fel sbwriel a phobl yn ysgarthu mewn mannau cyhoeddus. Mae'r materion hyn yn achosi poendod yn y cymunedau lleol ac yn cael effaith ar yr amgylchedd.
"Hyd yn hyn y tymor hwn rydym yn wynebu nifer fawr eto o ymwelwyr... Fodd bynnag, gyda syniad o'r hyn ddigwyddodd y llynedd, rydym wedi gallu rhoi rhai mesurau ar waith.”
Darllenwch y stori'n llawn yma.