200,000 yn gwrthwynebu'r 20mya: Y ddeiseb fwyaf welodd y Senedd erioed yn dal i dyfu
Mae deiseb ar wefan Senedd Cymru yn gwrthwynebu’r newid i derfyn cyflymder newydd 20mya yng Nghymru bellach wedi casglu 200,000 o lofnodion.
Cafodd y ddeiseb ei chreu lai nag wythnos yn ôl, ar ddydd Mercher Medi 13, gan Mark Baker, gan gyrraedd dros 100,000 o lofnodion erbyn nos Lun.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd awdur y ddeiseb ei fod yn bwriadu ei chadw ar agor "er mwyn cyrraedd miliwn o lofnodion o fewn mis".
Erbyn canol fore Mawrth, roedd cyfanswm y llofnodion wedi cyrraedd 150,000 – nifer sydd bron yn gyfystyr â 5% o boblogaeth Cymru.
Dyma'r ddeiseb fwyaf erioed ar wefan y Senedd.
Yn flaenorol roedd 34,000 wedi arwyddo deiseb yn galw ar wneud hanes pobl dduon a POC yn y DU, i fod yn orfodol yng nghwricwlwm addysg Cymru.
Mae hefyd ymhell dros y trothwy i’r Senedd drafod y ddeiseb, sef 10,000 o lofnodion.
Fe gasglodd deiseb blaenorol ar bwnc y terfyn cyflymder 21,000 o lofnodion ac fe gafodd ei thrafod yn y Senedd ar 28 Mehefin 2023.
"Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya," meddai'r ddeiseb.
"Rhoddwyd Llywodraeth Cymru yn ei lle gan bobl Cymru - ni yw eich pennaeth! Rydym yn mynnu bod y syniad hurt hwn yn cael ei atal."
Mae cyflwyno'r terfyn cyflymder o 20mya wedi costio £32m i'r llywodraeth - ac mae'r gost, ac oedi posib i deithwyr wrth fynd ar eu taith wedi cythruddo gwrthwynebwyr y cynllun, gan gynnwys y Ceidwadwyr Cymreig.
‘Gwrthod gwrando’
Dywedodd Gweinidog Trafnidiaeth Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig, Natasha Asghar AS: “Mae'r ffaith fod dros 150,000 o bobl wedi arwyddo deiseb o fewn cyfnod mor fyr yn amlygu maint y dicter cyhoeddus tuag at bolisi trychinebus Llafur.
"Mae Llafur a Phlaid Cymru wedi gwrthod gwrando ar farn y cyhoedd ac yn parhau i dalu eu hagenda gwrth-weithwyr, gwrth-ffyrdd a gwrth-fodurwyr. Gall Llafur barhau i droi pedol ar y broses gyflwyno drychinebus hon a chyflawni’r hyn y mae Cymru ei eisiau drwy ddileu parthau 20mya cyffredinol ledled Cymru.
“Gyda fawr ddim ymgynghori gan y cyhoedd, mae pobl Cymru yn defnyddio’r ddeiseb hon i anfon neges glir i Lafur ym Mae Caerdydd – maen nhw wedi cael digon ar yr agenda sosialaidd yma ac wedi blino o gael eu gorchymyn.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae cyflwyno terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya yn bolisi sydd wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd.
“Mae lleihau cyflymder yn lleihau gwrthdrawiadau ac yn achub bywydau ond hefyd yn gwella ansawdd bywyd - gan helpu i wneud ein strydoedd a'n cymunedau lleol yn fwy diogel i bawb.”