Cytundeb newydd i gwmni trenau sy'n gwasanaethu gogledd Cymru yn 'warthus'
Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i adnewyddu cytundeb cwmni trenau sy’n darparu gwasanaethau yng ngogledd Cymru yn “warthus” yn ôl y Blaid Lafur.
Fe gyhoeddodd Adran Drafnidiaeth y DU eu bod nhw’n adnewyddu cytundeb Avanti West Coast heddiw.
Mae’r cwmni yndarparu gwasanaethau o Euston yn Llundain hyd at Gaergybi tua gogledd-orllewin Cymru a Glasgow yn yr Alban.
Dyma un o’r cwmnïoedd trenau gwaethaf yn y DU o ran prydlondeb, gyda dim ond 48% o’u trenau yn cyrraedd o fewn munud i’r amserlen yn y pedair wythnos cyn 19 Awst.
Mae’r cytundeb yn parhau am naw mlynedd ond byddai modd dod ag ef i ben wedi tair blynedd.
Dywedodd llefarydd y Blaid Lafur ar drafnidiaeth Louise Haigh bod y Ceidwadwyr yn “gwastraffu arian trethdalwyr”.
“Bydd teithwyr sy’n dibynnu ar y gwasanaeth ofnadwy yma yn credu ei fod yn warthus bod Avanti wedi cael cytundeb newydd er bod y cwmni ar waelod y tabl o ran oedi,” meddai.
“Dylai Llafur ddod a’r cwmnïoedd yn ôl i berchnogaeth y cyhoedd a rhoi teithwyr yn gyntaf.”
‘Sicrwydd’
Ond dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Mark Harper fod y cwmni ar y “trywydd iawn”.
“Mae’r llwybrau Avanti West Coast yn darparu cysylltiadau hanfodol, ac mae’n rhaid i deithwyr deimlo’n hyderus y gallant ddibynnu ar y gwasanaethau i fynd a nhw lle mae angen iddynt fod erbyn yr amser iawn,” meddai.
“Dros y flwyddyn ddiwethaf, roedd angen cytundebau tymor byr i ailadeiladu’r amserlen a lleihau nifer yr achosion o ganslo.
“Nawr mae Avanti yn ôl ar y trywydd iawn, rydym yn gallu rhoi sicrwydd hirdymor i’r gweithredwr a’r teithwyr fydd gwelliannau’n parhau.”