
Carthion mewn dŵr: chwe ardal yng Nghymru yn 10 uchaf yn y DU
Roedd chwe ardal yng Nghymru ar restr o'r 10 etholaeth oedd â’r nifer fwyaf o achosion o garthion yn cael ei ryddhau i afonydd a dyfroedd yn y DU yn 2022.
Yn ôl data gafodd ei ryddhau gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru oddi ar wefan Top of the Poops, etholaeth Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr oedd yr ardal a gafodd ei lygru waethaf yn y DU yn ystod y flwyddyn.
Fe gafodd cyfanswm o 7,103 achos o garthffosiaeth yn caelei ryddhau yno dros gyfnod o 60,430 o oriau.
Yn drydydd ar y rhestr roedd etholaeth Dwyfor Meirionydd, ble gafodd carthffosiaeth ei ryddhau 6,039 o weithiau dros gyfnod o 49,174 o oriau.
Roedd Preseli Penfro yn bumed ar y rhestr, gyda 5,098 achos o lygredd dros 47,283 o oriau.
Hefyd ymhlith y deg uchaf oedd Ogwr, yn y seithfed safle (34,818 awr o allyriadau), Ceredigion, yn y nawfed safle (33,267 awr o allyriadau) a Brycheiniog a Sir Faesyfed, yn y 10fed safle (3,925 awr o allyriadau).
Mae carthion yn cael eu rhyddhau i afonydd o ganlyniad i orlifoedd yn dilyn stormydd.
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn sicrhau fod cwmni Dŵr Cymru, sydd yn gyfrifol am yr allyriadau, yn mynd i afael â’r broblem.
‘Gwarthus’
Dywedodd Jane Dodds AS: “Mae’n warthus fod chwech allan o’r deg ardal gyda’r fwyaf o allyriadau carthion y llynedd yng Nghymru. Mae’n newyddion drwg i’r amgylchedd, i’n bywyd gwyllt, a phawb sydd yn mwynhau ein hafonydd.
“Mae’r Ceidwadwyr yn San Steffan wedi gwrthod gweithredu er mwyn taclo’r broblem o lygredd mewn afonydd, ac mae’r Gweinidogion Llafur ym Mae Caerdydd wedi methu â gorfodi Dŵr Cymru i fynd i afael â’r afonydd llygredig a biliau dŵr cynyddol.

“Mae’n amser i ysgwyd pethau ac mae angen i’r Gweinidogion Llafur ym Mae Caerdydd ddelio gyda methiant dŵr Cymru i warchod ein hafonydd.”
Fe gafodd statws Dŵr Cymru ei ‘israddio’ fis Gorffennaf gan asiantaeth amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn dilyn “dirywiad pellach mewn perfformiad amgylcheddol” a bod hynny’n “siomedig”.
Roedd achosion o lygredd wedi codi 9% yn 2022, a bod yr achosion oedd yn cael effaith fawr neu sylweddol wedi codi o dri i bump, medden nhw. Daw hyn wedi cyhoeddiad gan y cwmni yn 2022 y byddai biliau cwsmeriaid yn cynyddu.
‘Gwelliannau gwirioneddol’
Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru: “Dim ond 9% o afonydd Cymru sydd â statws ecolegol “gwael” neu “anfoddhaol” ac mae ein hafonydd yn sylweddol well nag yn Lloegr. Rydym wedi ymrwymo i wella ansawdd ein hafonydd ac yn targedu lle bydd buddsoddiad yn cael yr effaith amgylcheddol fwyaf.
“Fel gwlad ar ochr orllewinol y DU, mae gennym rai o’r lefelau uchaf o law ac rydym yn gweld cynnydd mewn digwyddiadau difrifol sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd.
“Mae hyn oll yn golygu bod gennym ni un o'r niferoedd uchaf o orlifau stormydd o blith unrhyw gwmni dŵr a bod y nifer o weithiau y maent yn gweithredu yn cael ei ddylanwadu'n drwm gan y ffactorau hyn.
“Mae biliau cwsmeriaid wedi bod yn uwch ar gyfer y rhai sy’n byw mewn ardaloedd arfordirol gan fod angen mwy o fuddsoddiad ers preifateiddio i drin dŵr gwastraff er mwyn gwella ansawdd afonydd – tra nad oedd yn rhaid i gwmnïau mewndirol wneud buddsoddiadau tebyg.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydyn ni’n deall bod allyriadau o orlifau stormydd yn dal i gael effaith andwyol ar y rhai sydd eisiau mwynhau ein dyfroedd – mae sicrhau bod ein dŵr o’r ansawdd uchaf yn rhan hanfodol o wneud Cymru yn lle ffyniannus, hapus ac iach i fyw ynddo.
“Rydym yn gweithio’n agos gyda rheoleiddwyr y cwmnïau dŵr, Ofwat, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Arolygiaeth Dŵr Yfed, ac yn eu cefnogi, i fonitro perfformiad ac i gyflawni eu swyddogaethau cydymffurfio.”