Newyddion S4C

Darganfod corff dyn 22 oed ger Pier Bangor

18/09/2023
Pier Bangor

Mae'r heddlu wedi cadarnhau fod corff dyn wedi ei ddarganfod ger Pier Bangor ddydd Sul.

Fe gadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru fod corff dyn 22 oed wedi ei ddarganfod ychydig wedi 07:00 fore Sul.

Mae'r heddlu hefyd wedi cadarnhau fod teulu'r dyn yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion a'u bod yn parhau i ymchwilio i union amgylchiadau'r farwolaeth.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Griffith: "Yn anffodus, fe dderbynion ni adroddiad bod corff wedi'i ddarganfod fore ddoe, ac rydym nawr yn gweithio i ddeall mwy am symudiadau olaf y dyn.

"Apeliwn ar unrhyw un a allai fod wedi bod yn yr ardal neu sydd â lluniau camera cerbyd rhwng Ffordd Caergybi, Bangor a Phorthaethwy o 02:00 i 05:00 fore Sul i gysylltu gyda ni."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.