Amser 'gwahaniaethu' rhwng y rhai sydd wedi a heb gael brechlyn, medd Tony Blair

Mae Tony Blair wedi dweud ei bod hi'n “bryd gwahaniaethu” rhwng pobl sydd wedi cael brechlyn Covid-19 a'r rhai sydd heb.
Mae’r cyn-brif weinidog wedi rhybuddio nad yw’n “gwneud unrhyw synnwyr o gwbl i drin y rhai sydd wedi cael brechiad yr un fath â’r rhai sydd heb", gan ddweud y byddai llacio cyfyngiadau i rai sydd wedi cael dau ddos o'r brechlyn yn "gymhelliad pwerus", yn ôl Sky News.
Hefyd, disgrifiodd cyn-arweinydd Llafur yr ap GIG sy’n profi bod rhywun wedi cael eu brechu yn “annigonol”, a rhybuddiodd fod angen iddo fod yn symlach ac yn fwy effeithiol.
Yn ymateb i'w sylwadau, dywedodd un o uwch ffynonellau'r llywodraeth wrth asiantaeth newyddion PA: "Unwaith eto mae'n ymddangos bod Mr Blair wedi dysgu am bethau sydd eisoes ar y gweill a phenderfynu galw amdanynt yn gyhoeddus.
"Mae'n dod yn arferiad. Serch hynny rydyn ni'n diolch iddo am ei gefnogaeth barhaus."
Darllenwch y stori'n llawn yma.