Perthynas 'agosach' gyda’r Undeb Ewropeaidd dan lywodraeth Llafur medd Keir Starmer
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer wedi dweud y byddai Llywodraeth Lafur eisiau perthynas agosach gyda’r Undeb Ewropeaidd.
Wrth siarad gyda’r Financial Times dywedodd y byddai eisiau ailysgrifennu cytundeb Brexit.
Mae’r Blaid Lafur wedi bod yn feirniadol o gytundeb y Ceidwadwyr gyda’r Undeb Ewropeaidd a gafodd ei greu yn ystod cyfnod Boris Johnson yn Brif Weinidog.
Bydd y cytundeb yn cael ei adolygu yn 2025, ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf.
“Mae bron pawb yn cydnabod nad oedd cytundeb Johnson yn un da,” meddai Keir Starmer.
“Wrth i ni gyrraedd 2025 fe fyddwn ni’n ceisio dod i well cytundeb ar gyfer y DU.”
‘Dyfodol’
Mae Llafur eisoes wedi wfftio’r awgrym eu bod nhw’n bwriadu ail-ymuno gyda marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd.
Ond dywedodd Keir Starmer ei fod yn hyderus fod perthynas masnachol agosach yn bosib.
“Rydw i’n credu y byddai modd cael perthynas masnachu agosach hefyd,” meddai.
“Mae angen trafod hynny ymhellach. Rydw i’n meddwl am genedlaethau'r dyfodol wrth ddweud hynny.
“Mae gen i fab 15 oed a merch 12 oed. Dydw i ddim eisiau iddyn nhw dyfu i fyny mewn dyfodol sy’n mynd i fod yn waeth nag y gallai fod.”
Roedd cyn-Ysgrifennydd Cymru, yr AS Ceidwadol John Redwood, yn feirniadol o sylwadau Keir Starmer.
“Mae gan y DU gytundeb masnach ddi-doll gyda'r Undeb Ewropeaidd,” meddai.
“Pam fod Llafur yn meddwl bod angen i ni ei gwneud hi'n haws fyth iddyn nhw werthu mewnforion i ni pan ydan ni eisoes yn prynu cymaint ganddyn nhw?”