Adeiladwr wedi ei yrru ei hun i’r ysbyty gyda’i goluddyn mewn crys-t
Bu'n rhaid i adeiladwr ei yrru ei hun i'r ysbyty gyda'i goluddyn wedi'i lapio mewn crys-t ar ôl syrthio ar lif ardd.
Roedd Brendan Clancy o Gwmtwrch Uchaf yng Nghwm Tawe yn torri paledi cyn iddo faglu a syrthio ar lafn naw modfedd y llif.
Fe wnaeth y llif dorri trwy abdomen y dyn 67 oed ac i mewn i'w goluddyn ym mis Mehefin.
"O'n i'n teimlo rhywbeth squidgy ac fe wnes i sylweddoli bod fy ngholuddyn i'n dod allan," meddai.
"Do’n i ddim yn gallu credu'r peth. Roedd e’n cario ymlaen i ddod allan ac roedd yn ymddangos fel pe na byddai byth yn stopio.
"Roedd yna fwced ar y llawr ond roedd hynny'n frwnt, ac ro’n i'n meddwl allwn ni ddim defnyddio hwnnw. Felly, es i gael gafael ar grys-t a'u lapio nhw i fyny yn hwnnw.
"Mae'n rhaid ‘mod i wedi bod yn rhedeg ar adrenalin, ro’n i'n gwybod fy mod i angen help ond ro’n i'n gwybod allwn i ddim aros i’r help gyrraedd."
'Gweld fy mrecwast'
Dywedodd fod ei wraig i ffwrdd yng Nghaerfyrddin.
Fe wnaeth Mr Clancy lwyddo i'w yrru ei hun i Ysbyty Cymunedol Ystradgynlais, 10 munud i ffwrdd, ac yn ddiweddarach, cafodd ei gludo i'r ysbyty gan Ambiwlans Awyr Cymru.
Yna, cafodd ei gludo i gaeau chwarae Pontardawe gerllaw lle'r oedd yr ambiwlans awyr yn aros amdano, ac ymlaen i'r Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd lle cafodd lawdriniaeth.
"Pan ry’ch chi'n cario'ch perfedd, dy’ch chi ddim yn meddwl am unrhyw beth arall heblaw eu cadw nhw i gyd mewn un lle," meddai.
"Doedd dim gwaed er bod y llif wedi torri drwy ryw bedair modfedd o’m coluddyn, ond ro’n i'n gallu gweld fy mrecwast."
Yn rhyfeddol, fe wnaeth Mr Clancy adferiad llawn heb unrhyw anaf parhaol, heblaw am graith 12 modfedd, yn ôl Ambiwlans Awyr Cymru.