Y Ceidwadwyr Cymreig yn beirniadu cynllun i ddiwygio'r Senedd
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu cynllun arfaethedig y llywodraeth i ddiwygio'r Senedd.
Mae disgwyl y bydd Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi cynlluniau am ddiwygio'r Senedd, allai gynnwys cynyddu nifer yr aelodau, ddydd Llun.
Fis Mai diwethaf fe gyhoeddodd un o bwyllgorau’r Senedd ei adroddiad yn amlinellu’r newidiadau yr hoffai eu gweld i’r ffordd y mae’r Senedd yn gweithio.
Cyhoeddwyd yr adroddiad, 'Diwygio ein Senedd' gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd, gan amlygu’r newidiadau y gellid eu cyflwyno i gryfhau rôl y Senedd a "rhoi llais cryfach i bobl Cymru."
Awgrym adroddiad y pwyllgor hwnnw oedd cynyddu nifer yr aelodau i 96 o'r 60 presennol.
Mewn datganiad ddydd Sul, dywedodd Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar AS: “Mae’n siomedig bod Gweinidogion Llafur Cymru yn parhau i fwrw ymlaen â chynlluniau i gynyddu maint y Senedd ar gost o ddegau o filiynau bob blwyddyn tra’n bygwth torri cyllidebau ar gyfer ysgolion ac ysbytai.
“Mae angen mwy o feddygon, deintyddion, nyrsys ac athrawon ar Gymru, nid mwy o wleidyddion.
“Dylai’r Llywodraeth Lafur ganolbwyntio ar fynd i’r afael ag amseroedd aros annerbyniol y GIG, safonau gwael mewn ysgolion a pherfformiad di-flewyn-ar-dafod economi Cymru, peidio â gwastraffu amser, ynni ac arian y trethdalwyr yn datblygu mwy fyth o ddeddfwriaeth ar Ddiwygio’r Senedd.”