Newyddion S4C

Byw gyda strôc: 'Dwi’n galaru am ddyn sydd reit o fy mlaen bob dydd'

17/09/2023

Byw gyda strôc: 'Dwi’n galaru am ddyn sydd reit o fy mlaen bob dydd'

“Mae o fatha bo’ fi wedi colli fo. Dwi’n galaru am ddyn sydd reit o flaen fi bob dydd.”

Dyma eiriau merch 24 oed sydd yn helpu i ofalu am ei thad wedi iddo ddioddef trawiad ar y galon a sawl strôc gan ei adael bron wedi ei barlysu yn gyfan gwbl.

Yn 62 oed, fe wnaeth Carl Schulze o Lanberis dderbyn llawdriniaeth ar ei galon, ac yna roedd mewn coma am dros wythnos wedi’r driniaeth

“Mis Mai blwyddyn dwytha aeth dad mewn am operation i gael valve newydd ar ei galon a oedd o mewn coma am wsos a hanner,” meddai Tesni Schulze wrth Newyddion S4C.

“Gath o fwy na un strôc tra oedd o mewn coma a rŵan dydi o methu symud ac mae o angen gofal 24 awr y dydd.”

Image
newyddion
Tesni a'i thad Carl

Fe wnaeth doctoriaid ac arbenigwyr rhybuddio Tesni a’i theulu fod siawns na fyddai Carl y goroesi.

“Doedd na neb wedi prepario ni at sut fysa dad yn edrych. Dwi’n cofio gweld o a nath y doctor ddeutha ni ‘mae 'na chance mawr neith o ddim deffro, ac os mae o yn deffro fydd o methu byta, siarad, symud, na neud dim byd.'"

Mae Carl adref erbyn hyn, ond mae angen gofal 24 awr y dydd arno.

“Sa’m geiriau i ddisgrifio pa’ mor falch ydw’i bod o yma, pan gathon ni’r newyddion a’r prognosis i ddechrau oedd o yn teimlo bod bywyd fi yn crumblo o flaen fi.”

Ychwanegodd Tesni: “Mae o yn cael gofalwyr i mewn pedair gwaith y diwrnod, ac mae ‘na rhywun adra efo fo bob tro.

“Dydio methu neud dim byd iddo fo ei hun, dio methu ista fyny, mae o yn goro gal ei hoistio.

“Mae o adra yn living room, dydi o ddim y gora achos does genna fo ddim washroom na dim byd fela, sydd yn broblem ond mae o adra diolch byth.

“Ar y funud mae o yn styc yn gadair neu yn gwely, mae o yn drist.”

Image
newyddion
Mae Carl yn ddibynnol ar ofal 24 awr y dydd

Er bod Tesni a’i theulu mor ddiolchgar ei fod o adref, mae ymdopi ac addasu i fywyd newydd yn gallu bod yn heriol ar adegau.

“Dad fi ydi o, dwi isio y gora idda fo,” meddai Tesni.

“Er nad ydi o yn dad fatha oedd o, mae o yn fersiwn hollol newydd ohono fo’i hun ond ma’ o dal yn dad i fi a dim otch be mae person yn mynd trwy mae o dal yn haeddu cael y gorau.

“Ma’ bob dim wedi newid, lwcus bod 'na le yn yr ystafell fyw idda fo. Ond dydi o ddim ru’n peth, fydd o byth, ond mae o yma.

“Mae o rili yn anodd, mae o fatha bo’ fi wedi colli fo. Dwi’n galaru am ddyn sydd reit o flaen fi bob dydd. Mae o yn torri calon fi.”

Mae Carl yn gwneud yn dda, mae’n siarad a gyda symudiad mewn un fraich, ond mae'n parhau'n ddibynnol iawn ar eraill.

“Dydi o ddim yn licio bod ar ben ei hun, mae o licio cysur bod ‘na rhywun o gwmpas o so ti methu mynd i shower neith o weiddi, ti methu mynd i bathroom, na’r ardd heb idda fo weiddi.

“Ac yn y nos hefyd dydi o methu cysgu, mae o mewn poen efo’i gefn, so mae o yn deffro pedwar i bum gwaith y noson mewn poen. Felly mae o yn anodd ac mae o angen help efo bob dim man neud rili.

“Er bod o yn gallu bwydo ei hun rŵan ti’n gorfod bod yna rhagofn fo dolldi rwbth poeth drosto fo.”

Image
newyddion
 Tesni gyda'i thad, mam, chwiorydd a'i nith

Mae Tesni yn falch ei bod hi’n medru helpu ei thad, er pa mor anodd yw hyn yn emosiynol ar adegau.

Dywedodd nad oes teimlad gwell na chael sgwrs dros baned a chlywed hiwmor ei thad: “Dwi’n appreciatio y pethau bach wan,” meddai.

“Dwi’n gwybod pa mor bwysig ydi sefyll yn ôl a gwerthfawrogi bywyd a dwi’n falch bo’ fi’n medru bod yn gefn i dad.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.