Newyddion S4C

Honiadau bod arwerthwr tai o Fôn wedi camarwain cwsmeriaid

Honiadau bod arwerthwr tai o Fôn wedi camarwain cwsmeriaid

Mae’r asiant tai annibynnol, Ian Wyn-Jones yn wynebu honiadau ei fod wedi camarwain rhai o’i gyn-gwsmeriaid tra'r oedd yn gwerthu eu tai. 

Mewn ymchwiliad gan y gyfres materion cyfoes Y Byd ar Bedwar, mae sawl un o gyn-gwsmeriaid Mr Wyn-Jones yn honni ei fod wedi creu ymweliadau ffug, rhoi cynigion ffug iddyn nhw, a methu â throsglwyddo cynigion. 

Mae gan Mr Wyn-Jones, sydd o Ynys Môn, ddau ddegawd o brofiad yn y diwydiant.

Mae Y Byd ar Bedwar wedi clywed gan hyd at 20 o bobl oedd yn bryderus am y gwasanaeth gawson nhw gan Mr Wyn-Jones rhwng 2019 a 2023. 

Image
IWJ
Fe benderfynodd Iolo fynd at Ian Wyn-Jones achos ei fod yn ffigwr adnabyddus yn yr ardal. 

Fis Mai eleni, fe wnaeth Iolo Williams o Gaernarfon roi ei dŷ ar y farchnad gydag Mr Wyn-Jones, ac mae o a’i gymar, Jennifer Jones yn teimlo eu bod wedi cael eu camarwain. 

“Taswn i’n gwbod beth dwi’n ei wybod rŵan, fyswn i byth wedi agor y drws ffrynt iddo fo,” meddai Ms Jones.

Mae’r ddau yn honni fod Mr Wyn-Jones wedi creu prynwr ffug, yn ogystal â chreu cynnig am y tŷ nad oedd yn bodoli mewn gwirionedd.

Mae’r cwpwl hefyd yn dweud fod Mr Wyn-Jones wedi gwrthod cynigion am y tŷ ar eu rhan, gan fethu a throsglwyddo dau gynnig iddyn nhw fel gwerthwyr. Yn gyfreithiol, mae’n rhaid i asiantau tai drosglwyddo cynigion ar gyfer eiddo nes y bydd cytundebau wedi cael eu cyfnewid. 

Image
Fis Mai eleni, fe wnaeth Iolo Williams o Gaernarfon roi ei dŷ ar y farchnad gydag Mr Wyn-Jones, ac mae o a’i gymar, Jennifer Jones yn teimlo eu bod wedi cael eu camarwain.   “Taswn i’n gwbod beth dwi’n ei wybod rwan, fyswn i byth wedi agor y drws ffrynt iddo fo,” meddai Ms Jones.   Mae’r ddau yn honi fod Mr Wyn-Jones wedi creu prynwr ffug, yn ogystal â chreu cynnig am y tŷ nad oedd yn bodoli mewn gwirionedd.   Mae’r cwpwl hefyd yn dweud fod Mr Wyn-Jones wedi gwrthod cynigion am y tŷ ar eu rhan, gan fethu a
 Mae Mr Ian Wyn-Jones yn wyneb cyfarwydd fel asiant tai ar gyfryngau Cymraeg.

Mae Y Byd ar Bedwar wedi gallu gwirio cyhuddiadau Mr Williams a Ms Jones, sydd hefyd wedi gwneud cwyn swyddogol i asiantaeth Mr Wyn-Jones, eXp. 

Yn ôl Mr Williams, sydd bellach wedi gwerthu ei dŷ gydag asiant dai arall, fe wnaeth Mr Wyn-Jones wastraffu ei amser a rhoi straen arno ef a’i gymar. 

“Dydi o methu cario ymlaen fel hyn, yn difetha bywydau pobl… a gwneud iddo fo edrych yn ffantastig, ond dydi o ddim de,” medd Ms Jones. 

'Chwalu ein bywydau'

Mae sawl un yn credu fod Mr Wyn-Jones wedi creu ymweliadau ffug, a darparu adborth ffug am yr ymweliadau hyn, tra’n gwsmeriaid iddo. 

Yn 2019 fe wnaeth Nia Williams ddechrau’r broses o werthu tŷ yn Abersoch gydag Ian Wyn-Jones. Gan fod Ms Williams yn byw ar Ynys Môn roedd allweddi’r tŷ'n cael eu cadw mewn bocs yn ddiogel y tu allan, ac roedd angen cod mynediad i agor y bocs.

Image
Nia Williams, cyn gwsmer Mr Ian Wyn-Jones.
Nia Williams, cyn gwsmer Mr Ian Wyn-Jones.

Wrth i sawl cynnig honedig am y tŷ fethu, fe wnaeth Ms Williams ddechrau amau nad oedd Mr Wyn-Jones yn bod yn gwbl onest â hi. Felly, fe wnaeth hi newid cod mynediad y bocs lle'r oedd allweddi’r tŷ yn cael eu cadw, heb roi gwybod i Mr Wyn-Jones.

Er hyn, mae Ms Williams yn honni fod Mr Wyn-Jones wedi dweud bod sawl ymweliad wedi digwydd ar ôl hynny, a’i fod wedi darparu adborth ffug. 

“Roedd o’n rhoi feedback yn dweud bod ‘y cwpwl wrth eu boddau efo’r tŷ, maen nhw’n gwneud hyn fel gwaith ac maen nhw wrth eu bodd efo darn yma’r adeilad,’” meddai.

Fe wnaeth Ms Williams ddweud wrth Mr Wyn-Jones ei bod yn gwybod nad oedd yr ymweliadau wedi bod yn digwydd, gan ddod a’i wasanaeth i ben yn fuan wedyn.

“Gwnes i ddweud wrtho fo, ‘dydy rhein heb ddigwydd Ian. Rwyt ti wedi chwalu ein bywydau ni, gobeithion ni, ro’n i’n pinio pob un hope ar werthu’r tŷ yma arna’ chdi ac rwyt ti wedi palu celwyddau, a doedd o ddim yn gwybod lle i roi ei hun.”

Mae Ms Williams yn dweud fod Mr Wyn-Jones wedi cyfaddef iddi, ac ymddiheuro yn ystod eu cyfarfod diwethaf. 

Image
tracey a'i mam 2.jpeg
 Tracy Jones a’i diweddar fam.

Mae Tracy Jones o Ben-y-groes yng Ngwynedd wedi dweud fod Mr Wyn-Jones wedi rhoi adborth ffug iddi am ymweliad nad oedd wedi digwydd ym mis Chwefror 2023 pan roedd yn gwerthu tŷ ei diweddar fam.

“Buodd [fy mhartner] yma hanner awr cyn yr apwyntiad, a hanner awr ar ôl yr amser oedd gen i ar fy ffôn, a gwnaeth [fy mhartner] ffonio a dweud ‘Tracy wnaeth yna neb ddod mewn’,” meddai Ms Jones. 

Roedd Mr Wyn-Jones wedi cadarnhau i Ms Jones fod yr ymweliad wedi mynd yn ei flaen yn ystod yr amser oedd wedi ei drefnu, ond doedd hyn ddim yn cyfateb gyda hyn welodd partner Ms Jones. 

Fe wnaeth Ms Jones benderfynu symud at asiantaeth dai arall. Fodd bynnag, mae ei phrofedigaethau’n golygu bod y profiad wedi rhoi hyd yn oed mwy o straen arni, meddai.

“Mae o’n mynd a fi i le du yn meddwl amdana fo. Dwi’n teimlo mod i wedi gadael fy nheulu i lawr drwy ymddiried yn rhywun dydw i ddim yn adnabod."

‘Camarweiniol'

Ychwanegodd Ms Williams: “Mae o’n chwalu breuddwydion pobl” 

Mae rhai o gyn-gwsmeriaid Mr Wyn-Jones sydd wedi siarad â rhaglen Y Byd ar Bedwar wedi dweud y dylai gael ei gosbi. 

Safonau Masnach sy’n rheoleiddio gwerthwyr tai ar draws y DU drwy orfodi deddfau sydd i fod i atal cwsmeriaid rhag cael eu trin yn annheg.   

Er nad oedd yn gallu trafod honiadau penodol am Mr Wyn-Jones, dywedodd Alison Farrar o Safonau Masnach Cenedlaethol nad oedd creu ymweliadau ffug yn dderbyniol.

Image
IWJ 7
Alison Farrar o Safonau Masnach Cenedlaethol 

“Mae’r gyfraith yn dweud y dylai busnesau ddim camarwain eu cwsmeriaid, ac felly os ydi busnesau yn camarwain y cwsmer ac yn gwneud ymweliadau i fyny, mi fyddai Safonau Masnach eisiau edrych mewn i hynny," meddai.

Wrth drafod y syniad bod gwerthwr tai yn creu cynigion ffug, dywedodd: “Mae hynny yn gamarweiniol, byddai angen edrych ar y rhesymau pam fod asiantaethwyr yn gwneud hynny. Mae camarwain cwsmeriaid fel unrhyw fusnes yn torri’r gyfraith.”

Ni wnaeth Mr Wyn-Jones ymateb yn uniongyrchol i’r cyhuddiadau yn ei erbyn, ond cafwyd datganiad ar ei ran gan ei asiantaeth eXp.

Roedd y datganiad yn gwneud sylwadau cyffredinol ynglyn â chyflwr y farchnad dai, ond ddim yn darparu unrhyw fanylion all gael eu cyhoeddi mewn ymateb i’r cyhuddiadau penodol. 

Fe wnaeth eXp fynnu bod y datganiad yn cael ei ddefnyddio yn ei gyfanrwydd neu ddim o gwbl, ond gan fod elfennau o’r datganiad yn enllibus, nid oes modd ei gyhoeddi.  

Gwyliwch yr ymchwiliad yn llawn ar Y Byd ar Bedwar am 20:00, 18 Medi ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.