Luis Rubiales yn derbyn gorchymyn llys wrth wadu cam-drin rhywiol
Mae cyn-bennaeth pêl-droed Sbaen, Luis Rubiales wedi derbyn gorchymyn llys sy'n ei atal rhag cysylltu gyda Jenni Hermoso, y pêl-droediwr a gusanodd yn dilyn rownd derfynol Cwpan y Byd fis diwethaf.
Mewn gwrandawiad Llys Cenedlaethol Sbaen ym Madrid, fe roddwyd gorchymyn sy'n atal Rubiales rhag mynd o fewn 200 medr i Ms Hermoso, ar ôl i'r barnwr ystyried cwyn am gam-drin rhywiol a gorfodaeth.
Mae Rubiales wedi gwadu camdrin Ms Hermoso drwy ei chusanu ar ei gwefusau, ar ôl i Sbaen ennill Cwpan y Byd.
Dywedodd Jenni Hermoso nad oedd hi wedi cydsynio i’r gusan.
Fe wnaeth Rubiales wadu ei fod wedi cyflawni’r ddwy drosedd yn y gwrandawiad llys du ôl i ddrysau caeedig ddydd Gwener.
Fe gyflwynodd yr erlynwyr, gais i’r barnwr, Francisco de Jorge ystyried gorchymyn oedd yn atal Rubiales rhag gwneud unrhyw gyswllt â Ms Hermoso, a’i atal rhag mynd o fewn 500 medr i’r chwaraewr.
Cytunodd y barnwr i roi’r gorchymyn atal, ond gyda therfyn pellter o 200 medr.
Fe ymddiswyddodd Rubiales fel llywydd Ffederasiwn Pêl-droed Sbaen (RFEF) ddydd Sul diwethaf, yn dilyn beirniadaeth yn y wlad ac yn rhyngwladol.