Carcharu gyrrwr fel rhan o ymchwiliad i wrthdrawiad Llaneirwg
Mae dyn 32 oed wedi ei ddedfrydu i gyfnod yn y carchar yn dilyn ymchwiliad ehangach i wrthdrawiad a laddodd dri pherson ifanc yng Nghaerdydd ym mis Mawrth eleni.
Roedd Shane Loughlin o ardal Tredelerch o'r brifddinas eisoes wedi pledio'n euog i yrru'n beryglus, ac i yrru tra'i fod wedi ei wahardd, ar draffordd yr M4 ar 3 Mawrth.
Fe ymddangosodd Loughlin yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener, ac fe gafodd ddedfryd o flwyddyn a phum mis yn y carchar.
Doedd y cyhuddiadau yn erbyn Loughlin ddim yn gysylltiedig â gwrthdrawiad diweddarach ar yr un noson ym mis Mawrth ar ffordd yr A48 ger Llaneirwg, pan fu farw Eve Smith, 21, Darcy Ross, 21 a Rafel Jeanne, 24.
Roedd Loughlin yn y car pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad angheuol hwnnw, ond fe oroesodd y ddamwain.
Roedd yr achos yn ei erbyn ddydd Gwener yn ymwneud â throseddu Loughlin yn y cerbyd yn gynharach ar y noson.
Fe gafodd lluniau ffôn symudol o Loughlin yn ffilmio ei hun yn anadlu nwy chwerthin wrth yrru ar gyflymder o hyd at 90mya ar ochr ddwyreiniol yr M4 eu dangos i'r llys.