
'Pobl yn ofn dod i'r bwyty' oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol ym Mangor
Mae perchennog bwyty ym Mangor yn poeni am ddyfodol ei busnes a dyfodol y stryd fawr oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Mae yfed cyson, cymryd cyffuriau, gweiddi, ymladd. Yn aml maen nhw’n mynd at bobl ac yn gofyn iddynt am arian a sigaréts,” meddai Avia Amos sy’n rhedeg bwyty Wood Fired Shack ym Mangor gyda’i phartner Paul Cassar.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymwybodol o’r sefyllfa ac wedi trefnu cyfarfod gyda pherchnogion Wood Fired Shack i drafod y mater ac wedi cynnig ymweld â nhw ochr yn ochr ag aelodau o’r tîm plismona lleol i weld a oes modd dod o hyd i ateb.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Gall ymdrin â’r math hwn o ymddygiad gwrthgymdeithasol olygu bod llawer o bartneriaid gwahanol yn cydweithio, o’r heddlu i wasanaethau iechyd, cymdeithasol a gwasanaethau cymorth eraill, ond rwy’n benderfynol o wneud popeth o fewn fy ngallu i leihau’r achosion hyn o ymddygiad gwrthgymdeithasol fel bod trigolion, ymwelwyr a pherchnogion busnes Bangor fwynhau canol eu dinas mewn ffordd saff a diogel.”
'Ofn dod i'r bwyty'
Yn ôl Ms Amos mae’r sefyllfa wedi mynd mor ddrwg mae pobl yn cyfaddef eu bod nhw’n ofni bwyta yn y bwyty sydd wedi ei leoli ger yr Eglwys Gadeiriol yn y ddinas.
“Dwi’n meddwl ein bod ni wedi dod i arfer ag e nawr, sy'n swnio'n ofnadwy oherwydd ni ddylech chi ddod i arfer â dim byd felly. Ond rydym mor gyfarwydd gyda’r sefyllfa doeddan ni ddim wedi sylweddoli'r effaith a faint y mae pobl yn osgoi'r ardal.”

Mae’n broblem "mor flinedig" ac yn cael effaith ar holl staff y bwyty, ychwanegodd Ms Amos.
“Rydyn ni wedi cael pobl yn cerdded i mewn i'n cegin ganol shifft, at weithwyr tra maen nhw'n coginio, a’u bygwth."
Fe wnaeth Ms Amos bostio ar gyfryngau cymdeithasol y bwyty yn mynegi eu pryder. Fe ddaeth cannoedd o ymatebion yn cydymdeimlo a phobl yn cyfaddef eu bod nhw isio ymweld â Bangor a lleoliad y bwyty.
“Dwi wedi dychryn gyda’r sylwadau, roedd rhai yn dweud mai'r rheswm pam nad ydyn nhw yn dod i'r rhan honno o'r dref yw oherwydd nad ydyn nhw’n teimlo'n ddiogel.
“Dywedodd un fenyw ei bod hi yn bwyta yn ein bwyty wrth y ffenestr, ac fe wnaeth person drio smasho’r ffenest gyda pholyn. Wn i ddim sut, ond llwyddodd y gwydr i beidio â thorri, ond fe wnaeth i ddychryn a dweud er bod y bwyd yn wych, ‘dyna'r tro olaf y byddaf yn dychwelyd.’”
'Siopau gwag ac ymddygaid gwrthgymdeithasol'
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Bangor wedi bod ym mhenawdau’r newyddion wedi i sawl ffatri ganabis cael eu darganfod yno gan yr heddlu.
Yn ôl Ms Amos, cynnydd mewn siopau gwag sydd wedi arwain at ddigwyddiadau gwrth cymdeithasol a throsedd.
“Mae cymaint o siopau gwag, a'r rheswm mae ffatrïoedd canabis yn codi yw oherwydd bod siopau gwag.
“Y rheswm bod yr ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynyddu achos fod y stryd fawr bron fel maes chwarae. Mae popeth yn wag.
“Does dim byd yn digwydd yma mewn gwirionedd. Nid oes fawr o ymwelwyr. Felly mae'n hawdd iawn ac yn gyfleus iawn i hynny ledaenu.”
'Dim ffordd yn nôl'
Mae Ms Amos yn pryderu bod dim ffordd yn nôl i stryd fawr Bangor, ac oblygiadau hynny i’w busnes.
“Rwy'n poeni bod delwedd Bangor wedi'i difrodi a sut mae dod yn ôl o hynny?” Meddai Ms Amos.
“Fe wnaethon ni agor y bwyty yn 2019 a dydi pethau erioed wedi bod mor ddrwg â hyn.
“Yn ariannol, mae'n heriol iawn, oherwydd yn amlwg, rydym wedi cael Covid, mae yna argyfwng costau byw, a hyn.
“Dydio ddim mor syml a symud lleoliad y bwyty i rywle arall, er y byddwn i wrth fy modd yn gallu codi'r adeilad hwnnw a'i symud. Nid yw hynny'n rhywbeth y gallwch chi ei wneud mor hawdd â hynny.
“Mae Bangor wedi gweld dirywiad cyflym yn y blynyddoedd diwethaf a dwi ddim yn gwybod beth yw’r datrysiad.”
'Pryder'
Ychwanegodd Andy Dunbobbin: “Roeddwn yn bryderus i ddarllen y post gan y tîm yn Wood Fired Shack ynghylch yr ymddygiad gwrthgymdeithasol y maent wedi bod yn ei brofi.
“Nid yn unig y mae’n frawychus yn bersonol i bobl brofi’r math hwn o ymddygiad, mae hefyd yn niweidiol i ddelwedd y ddinas fel y lle diogel a chroesawgar i fyw ac ymweld ag ef yr ydym am iddo fod.
“I berchnogion busnes sy'n gweithio'n galed i wella ar ôl y pandemig a'r argyfwng costau byw, gall effaith y math hwn o ymddygiad gwrthgymdeithasol fod yn anoddach fyth.”