Aberystwyth yn cipio gwobr ‘Prifysgol Gymreig y flwyddyn’ y Sunday Times
Aberystwyth sydd wedi ennill gwobr ‘Prifysgol Gymreig y flwyddyn’ y Sunday Times Good University Guide a gafodd ei chyhoeddi ddydd Gwener.
Cafodd y coleg ger y lli ei dewis gan banel o arbenigwyr fel y brifysgol orau oherwydd ei “rhagoriaeth academaidd cyffredinol”.
Serch hynny Prifysgol Caerdydd sydd ar frig y tabl yng Nghymru ar dabl cynghrair dylanwadol y papur newydd.
Mae hwnnw’n seiliedig ar ystadegau profiad myfyrwyr, swyddi ar ôl graddio a safon yr ymchwil.
Prifysgol St Andrews yn Fife, yr Alban oedd ar y brig ledled y DU, uwchben Rhydychen a Chaergrawnt.
Dyma’r prifysgolion gorau yng Nghymru yn ôl y tabl a'u safle yn y gynghrair:
- 25 – Prifysgol Caerdydd
- 39 – Prifysgol Aberystwyth
- 41 – Prifysgol Abertawe
- 44 – Prifysgol Bangor
- 78 – Met Caerdydd
- 97 – Prifysgol De Cymru
- 117 – Prifysgol y Drindod Dewi Sant
- 122 – Prifysgol Wrecsam
‘Camp’
Wrth ymateb i wobr Prifysgol Cymreig y Flwyddyn, dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.
“Mae hon yn dipyn o gamp ac yn un a ddylai fod yn destun balchder mawr i bawb sydd â chysylltiad gyda Phrifysgol Aberystwyth.
“Mae gan ein prifysgol enw da rhagorol am ansawdd y profiad rydym yn ei gynnig i fyfyrwyr, ac rydyn ni wedi ymddangos yn gyson ymhlith prifysgolion gorau'r DU am foddhad myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
“Yr hyn sydd wedi gwneud y llwyddiant hwn yn bosibl yw ymroddiad a gwaith caled pawb yma yn Aberystwyth, a’u hymrwymiad i ddarparu'r profiad dysgu gorau posibl i'n myfyrwyr.
“Mae hwn hefyd yn newyddion gwych i'r gymuned ehangach yma yn Aberystwyth sy'n rhoi croeso mor gynnes i'n myfyrwyr bob blwyddyn.”