Rhybuddio gyrwyr i 'beidio â dibynnu ar y sat nav' wedi i derfyn cyflymder Cymru ostwng i 20mya
Mae’r RAC wedi rhybuddio gyrwyr i "beidio â dibynnu ar y sat nav" wedi i derfyn cyflymder y rhan fwyaf o ffyrdd preswyl yng Nghymru ostwng i 20mya ddydd Sul.
Dywedodd y cwmni gwasanaethau ceir y dylai’r cyhoedd dalu “sylw llawn” i’r arwyddion yn hytrach na’u teclynnau electronig System Lleoli Byd-eang (GPS).
Dywedodd pennaeth polisi'r RAC, Simon Williams ei fod yn “hollbwysig fod gyrwyr yn gwbl ymwybodol o’r newid “.
“Nes bod y systemau sat nav yn cael eu diweddaru ni ddylen nhw ddibynnu arnyn nhw i wybod beth yw’r terfyn cyflymder ar unrhyw ffordd yng Nghymru.”
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi dweud y bydd y newid yn arbed £92m y flwyddyn i GIG Cymru.
Dywedodd ddydd Gwener y byddai cyfle i bobl “ddod i adref” gyda’r newid cyn eu bod nhw’n cael eu herlyn am oryrru.
“Nid yw’n newid sy’n cael ei gyflwyno er mwyn gwneud bywyd yn anodd i bobl ac felly bydd yr awdurdodau yn ystyried y peth yn y cyd-destun hwnnw,” meddai.
“Ond os yw pobol yn gwbl benderfynol o beidio â chadw at y rheolau y mae pawb arall yn eu dilyn fe fydd hynny yn fater gwahanol.”
Ychwanegodd: “Does yna ddim esgus i gyflogwyr greu amodau gwaith lle mae disgwyl i’r gweithwyr beidio â chadw at y rheolau.”
‘Gwallgof’
Mae’r newid wedi bod yn un dadleuol gydag adroddiadau fod rhai o’r arwyddion newydd wedi eu difrodi yng Nghonwy, Gwynedd, Casnewydd, Torfaen, Wrecsam a Sir y Fflint.
Ddoe dywedodd Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Penny Mordaunt, fod cyflwyno’r terfyn newydd yn “hollol wallgof”.
Awgrymodd Simon Williams y byddai wedi bod yn well targedu ffyrdd preswyl prysur yng Nghymru lle’r oedd llawer o bobol yn teithio ar droed.
“Nid pawb sy’n cadw at derfynau 20mya ond fe ddylai arwain at gwymp mewn cyflymder ar y cyfan a gwella diogelwch ar y ffordd.”