Newyddion S4C

Dymchwel ac ail-adeiladu tŷ traeth ar arfordir ger Nefyn

16/09/2023
nefyn

Fe fydd y tŷ traeth ar un o arfordiroedd mwyaf poblogaidd y gogledd yn cael ei ddymchwel a’i ail-adeiladu.

Mae cais wedi ei wneud i ddymchwel tŷ ar ochr clogwyn ger Nefyn o'r enw Morlais Lôn wrth droed clogwyni Penrallt ym Mhen Llŷn.

Bydd y cynlluniau yn gweld adeiladu tŷ newydd yn ôl troed yr hen adeilad, gyda gwaith i sefydlogi’r clogwyni.

Mae’r safle presennol yn cynnwys tŷ o'r 1960au.

Byddai’r tŷ newydd yn cynnwys to crib, waliau allanol o fyrddau pren siarcol a charreg naturiol.

Ond cafodd y cynllun newydd ei feirniadu gan rai o gynghorwyr Cyngor Gwynedd am fod “dim gwell na’r un blaenorol”.

Roedd un hyd yn oed yn ei ddisgrifio “fel lwmp tywyll”.

Mae'r clogwyni o amgylch Nefyn wedi'i ddynodi'n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).

Roedd y pwyllgor cynllunio wedi gohirio’i penderfyniad ym mis Gorffennaf.

Yn ystod cyfarfod yr wythnos hon, clywodd yr aelodau am gais, a gafodd ei ollwng, i gau llwybr cyhoeddus rhif 19, Nefyn.

Mae’r llwybr hwn yn arwain i lawr at safle’r tŷ o ben y clogwyn, ac ar hyd blaen yr adeilad presennol ac i lawr at y traeth.

Roedd y cynnig wedi galw am ailgyfeirio'r llwybr troed, ond roedd hynny wedi arwain at wrthwynebiadau gan y cyhoedd.

Yn dilyn trafodaethau, a sylwadau gan Uned Hawliau Tramwy’r Cyngor, Cyngor Tref Nefyn a’r cyhoedd, penderfynwyd ei fod yn “rhy gynhennus” a newidiodd y cynlluniau, yn ôl adroddiad gan y cyngor.

Roedd ymgynghoriad cyhoeddus dros yr adeilad newydd wedi casglu gwrthwynebiadau lleol “sylweddol”.

Ond mae sawl llythyr o gefnogaeth wedi dod i law hefyd.

Roedd arbenigwyr wedi argymell mesurau priodol i sefydlogi’r clogwyni.

Dywedodd arbenigwyr: “Mae rhywfaint o bryder gwirioneddol ynghylch sefydlogrwydd y clogwyn yn yr ardal yn y sir a thystiolaeth o dirlithriadau yn y gorffennol. Wrth osod amodau rhaid derbyn bod yr hyn a gynigir yn dderbyniol ar sail barn broffesiynol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.