Newyddion S4C

Gwrthod cais cynllunio dadleuol i fwyngloddio glo ger Rhydaman

14/09/2023
Glo Rhydaman

Mae cynlluniau dadleuol i fwyngloddio 95,000 o dunnelli o lo ger Rhydaman wedi cael eu gwrthod gan gynghorwyr Sir Gaerfyrddin. 

Fe wnaeth pwyllgor cynllunio'r cyngor bleidleisio yn unfrydol i  wrthod y cynlluniau, gan sbarduno cymeradwyaeth gan rhai pobl yn yr oriel gyhoeddus. 

Clywodd y pwyllgor fod cyfanswm o 826 o wrthwynebiadau, ac ychydig o lythyrau o gefnogaeth i'r cynllun, gan gwmni Bryn Bach Coal, a wnaeth y cais i ehangu eu pwll glo bedair blynedd yn ôl. 

Byddai'r estyniad 10 hectar wedi golygu fod caeau yn cael eu colli a "choetir gwlyb". 

Ond dywedodd swyddog cynllunio y sir mai dim ond 6.5 hectar fyddai'n cael ei gloddio i ddyfnder o 52 medr ar y mwyaf. 

Dywedodd yr ymgeiswyr byddai'r glo carreg yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hidlo dwr, lliwio brics a brwshys ar gyfer ceir trydanol. 

Ond byddai ychydig o'r glo ar gael i gwmnïau yn y diwydiant dur, a fyddai'n golygu bod llosgi yn digwydd. 

Os byddai'r cais wedi ei ganiatáu, byddai 95,038 tunnell o lo wedi cael ei gloddio dros gyfnod o chwe blynedd, gan greu saith swydd ychwanegol. 

Yn ol swyddog cynllunio'r cyngor,  roedd yr argymhelliad i wrthod yn sgil diffyg gwybodaeth a fyddai'r gwaith o  adfer y safle wedi'r cloddio yn amddiffyn a chynyddu cynefinoedd. 

Wrth siarad ar ran Bryn Bach Coal, dywedodd yr ymgynghorwr cynllunio Rob Chichester fod ei gleient wedi bod yn amyneddgar iawn o ystyried fod y cais wedi ei gyflwyno ym mis Rhagfyr 2019.

Dywedodd ei fod yn "siomedig" fod y cais yn mynd gerbron y pwyllgor ar adeg pan oedd  tîm Bryn Bach Coal yn paratoi ymateb manwl i'r pryderon am y cynefinoedd a gafodd eu codi gan y cyngor.

Byddai'r adroddiad yn barod ddechrau mis Hydref, meddai Mr Chichester, a roedd y cyngor yn ymwybodol o hyn. 

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas fod y cais cynllunio yn un teg a'i fod wedi dod i'r cyfarfod gyda meddwl agored. 

Ei bryder ef oedd nad oes "unrhyw beth" yn tyfu ar leoliadau glo sydd wedi eu hadfer: "Mae hanes wedi dangos nad yw'r tir byth yn dychwelyd i'r hyn oedd o o'r blaen."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.