Newyddion S4C

‘Ma ofn da fi’: Protestwyr yn galw am sicrhau dyfodol gwasanaeth iechyd meddwl

14/09/2023

‘Ma ofn da fi’: Protestwyr yn galw am sicrhau dyfodol gwasanaeth iechyd meddwl

Mae grŵp sy’n galw am adfer nawdd gwasanaeth iechyd meddwl yn Sir Gaerfyrddin wedi protestio y tu allan i gyfarfod o Fwrdd Iechyd Hywel Dda.

Mae gwasanaeth Shadows sydd wedi ei leoli yn Garnant, Sir Gâr yn helpu pobol yng nghymoedd Aman a Gwendraeth.

Ond daeth y nawdd ar gyfer y gwasanaeth  i glwstwr meddygon teulu Aman Gwendraeth yn yr ardal i ben ar 5 Medi, a mae hynny'n golygu bod  ei ddyfodol yn ansicr meddai'r protestwyr.

Cafodd protest ei chynnal y tu allan i gyfarfod o Fwrdd Iechyd Hywel Dda yng Nghaerfyrddin ddydd Iau, gan alw arnyn nhw i adfer y nawdd.

Dywedodd y protestwyr eu bod nhw’n pryderu y byddai cau'r gwasanaeth yn ergyd drom i’r 1,600 o bobl  y mae nhw'n dweud sydd yn ei defnyddio er mwyn hybu eu hiechyd meddwl.

Dywedodd Arfon Griffiths o Benygroes ger Cross Hands wrth Newyddion S4C ei fod yn pryderu y byddai goblygiadau difrifol i dynnu’r gefnogaeth yn ôl.

“Ma’ ofn da fi y bydd suicides yn mynd lan rown fan hyn achos ma’ shwd gymaint o bobl yn syffro yn waeth ‘na beth i fi,” meddai.

“Ac mae nhw’n meddwl, beth fi’n mynd i wneud? Mae dros 2,000 o bobol gyda nhw.

“Ma Shadows wedi bod mor gwd i fi, a ma’ ofn da fi hefyd beth sy’n mynd i hapno i fi.

“Does dim waiting list. Chi’n gallu ffonio lan a mynd syth mewn am one to one. S’dim rownd Cymru fel Shadows.

“O’n i ffili siarad da’n wraig, ond o’n i’n mynd mewn i Shadows ac ro’n nhw’n cael popeth mas o chi.

“O’n i ffili dod mas o gwely. Ond fi’n dod yn lot gwell nawr. Mae’r wraig wedi dweud wrthyn nhw bod hi wedi cael ei gŵr yn ôl o 20 mlynedd yn ôl.”

Image
Arfon Griffiths
Arfon Griffiths

‘Mwy tywyll’

Dywedodd Paul Davies, un o'r ymgyrchwyr dros achub y gwasanaeth,  bod “1,600 o bobol ar y foment yn nervous ambiti beth sy’n digwydd”.

“I bobl gyda phroblemau iechyd meddwl, mae pethau’n eitha’ tywyll yn barod," meddai.

“Ond amser does dim clarity am ble mae’r help yn dod o, mae popeth yn mynd yn fwy tywyll.

“Ac os chi’n meddwl sut mae rhai i’r bobol sy’n dependo ar y service hyn yn teimlo ar y foment, wy’n teimlo bod y penderfyniad am wneud pethau’n waeth dros yr ardal.”

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Hirdymor Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod nhw wedi cynnal trafodaethau gyda Shadows.

Roedd clystyrau meddygon teulu yn derbyn cyllidebau blynyddol gan y bwrdd iechyd a roedd yn fater iddyn nhw sut oedden nhw’n gwario’r rheini ar sail yr angen yn lleol, meddai.

“Mae Clwstwr Aman Gwendraeth wedi gwahodd sefydliadau gwahanol i dendro am wasanaethau sy’n cwrdd ag anghenion y gymuned, gan gynnwys gwasanaethau sydd wedi’u cynllunio i gefnogi iechyd meddwl a lles,” meddai.

“Dyfarnwyd contract cychwynnol o 12 mis i’r Shadows Depression Group a ddechreuodd ym mis Tachwedd 2020. Estynnwyd y contract am gyfnod pellach, gan ddod i ben ym mis Medi 2023.

“Wrth baratoi ar gyfer y dyddiad hwn, mae’r Clwstwr wedi cynnal nifer o drafodaethau gyda Shadows Depression Group a’u cyfeirio at ffynonellau cyllid eraill, a allai ddarparu ffynhonnell ariannu amgen y tu hwnt i fis Medi 2023.

“Yn anffodus, rydym ar ddeall na fanteisiodd y grŵp ar y cyfle hwn.”

Image
Paul Davies
Paul Davies

‘Blueprint’

Dywedodd Arfon Griffiths nad oedd y protestwyr yn teimlo fod y clwstwr a Hywel Dda wedi gwneud digon er mwyn deall y rhan yr oedd Shadows yn ei chwarae yn y gymuned.

“Beth sy’n boddran pob un efo Shadows ydi does neb wedi dod i weld beth sydd ‘mlan,” meddai.

“Tase Shadows a Hywel Dda a’r cluster yn gweithio da’i gilydd gallen nhw safio’r NHS miloedd o bunne’.”

Dywedodd fod dylanwad Shadows yn ymestyn y tu hwnt i Sir Gaerfyrddin.

“Maen nhw wedi safio bywyd dynes yn Sbaen ac maen nhw dal yn siarad ‘da hi,” meddai.

“Gallai fo fod yn blueprint dros Gymru i gyd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.