Rishi Sunak yn gwrthod cadarnhau y bydd rheilffordd HS2 i Fanceinion yn cael ei hadeiladu
Mae Rishi Sunak wedi gwrthod cadarnhau y bydd ail ran rheilffordd HS2 yn cael ei hadeiladu.
Daw hyn wedi adroddiadau bod Prif Weinidog y DU a'r Canghellor Jeremy Hunt yn trafod dileu'r rhan o'r prosiect fyddai'n ymestyn y rheilffordd i Fanceinion.
Yn ol papur newydd The Independent, mae gweinidogion yn bryderus am gostau cynyddol ac oedi difrifol i gwblhau'r rheilffordd.
Dywedodd llefarydd ar ran Rishi Sunak bod gwaith ar y prosiect eisoes wedi cychwyn. a bod bwriad i'w gwblhau, ond nid oedd modd cadarnhau y byddai'r cynllun yn cyrraedd Manceinion.
"Mae'n amlwg bod hwn yn broses i adrannau sydd yn berthnasol i HS2 trafod... ond mae'r gwaith eisoes wedi cychwyn," meddai.
"Rydym wedi ymrwymo i brosiect HS2. Fel yr ydych yn gwybod, rydym yn edrych ar ailstrwythuro'r gwaith er buddiannau teithwyr a threthdalwyr."
Mae cynllun HS2 wedi bod yn ddadleuol yng Nghymru, gyda nifer o wleidyddion yn dweud y dylai'r llywodraeth ym Mae Caerdydd dderbyn arian cyfatebol. Ond mae Llywodraeth San Steffan wedi gwrthod hynny, gan honni y bydd Cymru'n elwa o'r cynllun.