Newyddion S4C

Arestio aelodau o deulu Sara Sharif ar gyhuddiad o lofruddiaeth

14/09/2023
Sara Sharif

Mae tad, llysfam ac ewythr Sara Sharif, a gafodd ei darganfod yn farw yn ei thŷ yn Woking wedi’u harestio ar amheuaeth o lofruddio ar ôl dychwelyd i’r DU o Bacistan.

Cafwyd hyd i gorff Sara, oedd yn 10 oed, yn ei chartref yn Woking ar 10 Awst.

Cafodd Urfan Sharif, 41, ei wraig Beinash Batool, 29, a’i frawd Faisal Malik, 28, eu harestio ym Maes Awyr Gatwick tua 19:45 ar ôl teithio ar awyren o Dubai.

Roedd y tri wedi hedfan i Dubai o faes awyr yn Sialkot ym Mhacistan yn gynnar fore Mercher.

Glaniodd yr awyren yn Llundain ychydig cyn 19:30 nos Fercher, bum wythnos ar ôl i dad, llysfam ac ewythr Sara, adael y DU.

Gadawodd dau gar heddlu a thair fan y maes awyr yn ddiweddarach gyda goleuadau glas yn fflachio.

Dywedodd yr heddlu fod tri o bobl yn y ddalfa ac y byddant yn cael eu cyfweld mewn cysylltiad gyda marwolaeth y ferch.

Fe wnaeth y tri oedolyn oedd yn byw gyda Sara, adael y DU am Bacistan ddiwrnod cyn i'r heddlu ddod o hyd i'w chorff.

Fe wnaeth archwiliad post-mortem ddarganfod ei bod wedi dioddef nifer fawr o anafiadau.

Mae ei mam, Olga Sharif, wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf ac yn cael ei chefnogi gan swyddogion, meddai Heddlu Surrey.

Disgrifiodd yr heddlu yr ymchwiliad fel un "sy'n symud yn gyflym iawn, yn heriol ac yn gymhleth".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.